Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 30 darlith (1 awr) (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg) |
Sesiwn Ymarferol | 9 x gweithdy dosbarthiadau enghreifftiau (1 awr) ac sesiwn termau (1 awr) |
Eraill | (Bydd darpariaeth Gymraeg ar gyfer y gweithdai a'r sesiynau termau) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr arholiad diwedd semester | 70% |
Asesiad Semester | Gwaith Cwrs: Taflen enghreifftiau | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr arholiad atodol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Deall sylfaeni electromagneteg, osgiliadau a thonnau a'u cymhwyso i systemau syml macrosgopig a microsgopig.
2. Dadansoddi arosodiad osgiliadau a thonnau ac ymateb cylched trydanol syml i geryntau eiledol.
3. Trafod cysyniadau tymheredd a throsglwyddo gwres.
4. Disgrifio priodweddau sylfaenol deunyddiau deuelectrig, magnetig, thermol a rhai sy'n dargludo trydan.
Disgrifiad cryno
Mae Ffiseg Clasurol yn disgrifio byd macrosgopig trydan, magneteg, mecaneg, opteg, gwres a golau, sy'n sail i lawer o beirianneg a thechnoleg ein dydd. Mae tarddiad ffiseg clasurol, fodd bynnag, yn effeithiau microsgopig electronau, atomau a molecylau ond gellir eu disgrifio, o leiaf yn ansoddol, drwy syniadau clasurol. Mae cysyniadau fel gwefr a cherrynt trydanol, a meysydd trydanol a magnetig ac anwythiad electromagnetig yn disgrifio sut mae cylchedau trydan a deunyddiau deuelectrig a magnetig yn gweithio. Gyda chysyniadau o fas, dadleoliad, grymoedd adferol a ffrithiant, egni potensial a chinetig, ceir dealltwriaeth o fudiannau osgiladu a thonnau, a sail ar gyfer diffinio tymheredd, trosglwyddo gwres a lledaeniad sain a golau. Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar drydan, magneteg, cerrynt trydan, osgiliadau, gwres a thymheredd, tonnau, sain a golau.
Cynnwys
Meysydd trydanol a chymwysiadau deddfau Coulomb a Gauss i wefrau trydanol mewn ffurfweddau geometreg gwahanol. Potensial trydanol mewn perthynas a maes trydanol, arwynebau unbotensial, cynwysyddion a dwysedd egni trydanol. Deunyddiau deuelectrig.
Magneteg:
Meysydd magnetig, dolenni cerrynt a deunyddiau magnetig. Deddfau Biot-Savart ac Ampere wedi'u cymhwyso i geryntau trydanol mewn gwifrau a solenoidau. Anwythiad electromagnetig (Deddfau Faraday a Lenz), hunan anwythiad a dwysedd egni magnetig.
Trydan Cerrynt:
Cerrynt union, gwrthiant trydanol deunyddiau sy'n dargludo a batriau, ceryntau eiledol mewn gwrthyddion, cynwysyddion ac anwythyddion.
Osgiliadau:
Mudiant Harmonig Syml (cyfnod, osgled, cyflymder, cyflymiad ac egni) a'i gymwysiadau i bendil mecanyddol ar gyfer mesur g ac i gylchedau LC ar gyfer generaduron amledd. Osgiliadau gwanychol a gorfod. Cyseiniant mecanyddol (systemau crog) a systemau trydan (cylchedau LCR).
Gwres a Thymheredd:
Osgiliadau mewn molecylau, egni, tymheredd, ehangiad thermol a dargludedd thermol. Thermomedrau a'r raddfa tymheredd nwy perffaith. Cydbwysedd thermol mewn perthynas a throsglwyddo gwres a deddf Zeroth Thermodynameg. Deunyddiau thermol.
Mudiant Ton:
Tonnau a'r hafaliad ton (tonfedd, amledd, cyflymder cydwedd). Arosodiad tonnau, ymyriant a thonnau unfan (e.e. mewn dwr). Gwasgariant, ton pecyn a chyflymder grwp. Effaith Doppler mewn tonnau sain a golau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy waith ysgrifenedig: datrys problemau, arholiadau |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ddim yn berthnasol |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn allweddol i ddatblygu dealltwriaeth yn y testunau |
Gwaith Tim | Ddim yn berthnasol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ddim yn berthnasol |
Rhifedd | Yn anhepgor i gwrs Ffiseg |
Sgiliau pwnc penodol | Trafod y pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ddarllen yn eang am y maes |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddi'r TG i ymchwilio'r maes |
Rhestr Ddarllen
Dylid Ei BrynuTipler, Paul Allen (2003.) Physics for scientists and engineers. 5th ed. W.H. Freeman Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4