Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC10300
Module Title
DADANSODDI CYNHYRCHIAD
Academic Year
2011/2012
Co-ordinator
Semester
Intended for use in future years
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Sylwebaeth Lafar mewn grwp (15 mund)  20%
Semester Assessment Sylwebaeth Unigol ysgrifenedig (1,500 o eiriau)  30%
Semester Assessment Sylwebaeth ysgrifenedig Unigol yn cynharu gwahanol gynnhyrchiadau (2,500 o eiriau)  50%
Supplementary Assessment Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwnor gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedii methu, rhiad ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. 

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

  1. arddangos eu dealltwriaeth o adeiladwaith y cynhyrchiad o safbwynt celfyddydol, technegol a chymdeithasol
  2. arddangos gallu i ddadelfenu'r cynhyrchiad, gan amlygu eu dealltwriaeth ohono fel ffenomen gyfansawdd, aml-gyfrwng
  3. arddangos eu gallu i drafod y berthynas rhwng testun dramataidd a chynhyrchiad theatraidd, a'r cyfryw brosesau sydd ynghlwm wrth drosgwlyddo drama ysgrifenedig i'r llwyfan byw
  4. llunio asesiad effeithiol o'u hymateb fel aelodau o'r gynulleidfa trwy gyflwyno adolygiadau ar ffurf sylwebaeth lafar ac ysgrifenedig, yn unigol ac mewn grwp.

Brief description

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

Yn ogystal a chynnig cyflwyniad i'r cynyrchiadau penodol y bydd y myfyrwyr yn ymweld a hwy, bydd y darlithoedd yn gyfle i amlinellu gwahanol swyddogaethau'r gweithwyr yn y theatr:

  1. Y Theatr: safle a sefydliad
  2. Y Dramodydd
  3. Y Cyfarwyddwr
  4. Yr Actor
  5. Cynllunio Goleuo
  6. Cynllunio Sain
  7. Cynllunio Set
  8. Rheoli Llwyfan
  9. Rheoli'r Cynhyrchiad
  10. Y Beirniad

Content

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

Yn ogystal a chynnig cyflwyniad i'r cynyrchiadau penodol y bydd y myfyrwyr yn ymweld a hwy, bydd y darlithoedd yn gyfle i amlinellu gwahanol swyddogaethau'r gweithwyr yn y theatr:

  1. Y Theatr: safle a sefydliad
  2. Y Dramodydd
  3. Y Cyfarwyddwr
  4. Yr Actor
  5. Cynllunio Goleuo
  6. Cynllunio Sain
  7. Cynllunio Set
  8. Rheoli Llwyfan
  9. Rheoli'r Cynhyrchiad
  10. Y Beirniad

Module Skills

Skills Type Skills details
Communication Bydd pob elfen o¿r modiwl yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng y myfyriwr unigol a¿i gyd-fyfyrwyr ac â¿r staff fydd yn cyflwyno¿r deunydd. Bydd aseiniadau¿r modiwl hefyd yn rhoi cryn bwys ar gyfathrebu effeithiol, boed yn unigol neu mewn gr¿p.
Improving own Learning and Performance Fe fydd y gwahanol elfennau o¿r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Trefnwyd elfennau¿r asesiad fel ag i alluogi¿r myfyrwyr i fanteisio ar y broses o gyflwyno deunydd mewn gr¿p wrth iddynt baratoi eu gwaith unigol eu hunain tua diwedd y modiwl.
Information Technology Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o¿r modiwl, eithr disgwylir y bydd y myfyrwyr yn datblygu rhywfaint o allu wrth brosesu geiriau wrth gyflwyno aseiniadau ysgrifenedig, a galluoedd i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar
Personal Development and Career planning Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol.
Problem solving Ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatrys problemau fel y cyfryw, ond fe fydd yn siarsio¿r myfyrwyr i ddatblygu dulliau dadansoddiadol a fydd yn eu galluogi i ddadelfennu cynhyrchiad theatraidd.
Research skills Gofynnir i¿r myfyrwyr gyflawni rhywfaint o ymchwil personol wrth iddynt ddarganfod mwy am gefndir a chyd-destun y cynyrchiadau gosod, ond ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatblygu medrau ymchwil fel y cyfryw.
Subject Specific Skills Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol.
Team work Fe rydd yr elfen o asesu cyflwyniad gr¿p gyfle i¿r myfyrwyr feithrin a datblygu¿r medrau hynny sy¿n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b.

Notes

This module is at CQFW Level 4