Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC21320
Teitl y Modiwl
SGILIAU SGRIPTIO
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill 10 Darlith/Seminar x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Tasgiau Rhagbaratoadol  40%
Asesiad Semester Portfolio  20%
Asesiad Semester Sgript Terfynol  30%
Asesiad Semester Cyfraniad i sesiynau Dysgu  10%

Nod

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Sianelu eu hynni creadigol yn bwrpasol trwy gyflawni tasgiau penodol
2. Llunio cronfa syniadau ar sail eu profiadau personol boed yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol
3. Datblygu syniad yn fraslun o weithgaredd dramataidd
4. Creu cymeriad dychmygus a rhoi llais priodol iddo/i
5. Arddangos sgiliau llunio monolog a deialog
6. Ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth a chyngor arbenigol
7. Cyfwlyno sgript ysgrifenedig i amserlen penodedig wedi ei olygu mewn modd ac i safon proffesiynol

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i nifer o'r sgiliau sylfaenol sy'n berthnasol i'r grefft o ysgrifennu sgriptiau drama megis ymateb i sbardun, trefnu amser, canoli ar dasgau penodol o fewn i amserlen benodedig, sgiliau cynllunio a pharatoi, sgiliau llunio monolog a deialog, y grefft o lunio cymeriad, sgiliau adolygu a golygu ac ymateb yn bositif i feirniadaeth allanol.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cynnwys 4 sesiwn 1.5 awr gan ymarferwyr gwadd a 4 x sesiwn 1 awr o diwtora yngyd a 2 diwrnod ar leolead yn Sherman Cymru Caerdydd. Cyfanswm o 20 awr cyswllt.

Sesiwn 1: Chwilio a chanfod ysbrydoliaeth
Sesiwn 2: Ymateb i sbardunau amrywiol
Sesiwn 3: Datblygu syniad yn fraslun ac ymgorffori'r braslun ar ffurf gweithgaredd dramataidd
Sesiwn 4: Creu cymeriadau a rhoi llais iddynt
Sesiwn 5 - 8: Bydd y sesiynau yma yn gyfle i adolygu a thrafod y gwaith a gyflwynir yn y sesiynau gan ymarferwyr gwadd ac i weithio ar greu a golygu gwaith sgriptio a lunir mewn ymateb i'r sbardun hwnnw. Fe fydd y cyfnod dwys hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gyda chorff sylweddol o waith newydd sgriptwyr ifanc trwy gyfrwng yr wyl ei hun sy'n ffenestr siop i waith sgriptio newydd yn y Gymraeg. Fe fydd hi hefyd yn darparu cyfle i fyfyrwyr dderbyn sylwadau gan sgriptwyr proffesiynol ar y gwaith a'r syniadau a ddyfeisiwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr lunio cymeriadau a rhoi llais iddynt ac wrth iddynt drafod eu cynlluniau gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng yr hafan gwe a'r sesiynau tiwtorial penodedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir y sgil wrth i fyfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cyflwyno eu gwaith ar y cyd yn ogystal a'r cryfderau a diddordebau personol yn sgil y broses o ddilyn y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fynd i'r afael a'r broblem o ganfod a chynnal ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu
Gwaith Tim Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr cyd-drafod a rhanuu syniadau trwy gyfrwng yr hafan we ac ar y cyfnodau dwys yn Sherman Cymru.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr sylwebu ar eu gwaith a derbyn sylwebaeth ac wrth iddynt ymgymryd a gwaith golygu ac adolygu.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Fe ddatblygir y gallu i ysgrifennu mewn arddull ac ar fformat sy'n benodol berthnasol i waith sgriptio mewn gwrthgyferbyniad a gwaith ysgrifenedig traddodiadol megis cyflwyno traethodau neu gwblhau arholiadau ysgrifenedig. Datblygir y gallu i gyflwyno a chyfryngu gwaith mewn modd creadigol a deallus sy'n cynnwys y gallu i ymateb yn uniongyrchol ac adeiladol i feirniadaeth o du cynulleidfa neu ddarpar gynulleidfa. Datblygir y gallu i ddeall hanfod theatraidd y testun ysgrifenedig ac i gyfleu'r cyfryw ddealltwriaeth wrth baratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer y modiwl.
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr chwilio am ddeunydd cefndirol addas i sbarduno sgript gwreiddiol.
Technoleg Gwybodaeth Datblygir y sgil hwn trwy ddefnyddio'r we fel cyrchfan ar gyfer deunydd cefndirol ac ymchwil yn ogystal ag wrth ddefnyddio'r hafan we fel gweithdy syniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5