Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlithoedd rhyngweithiol 10 x 3 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os methir y cyflwyniad ffurfiol ar lafar, yna rhaid ailgyflwyno gerbron dosbarth neu o flaen isafswm o ddau arholwr/wraig yn ol gofynion ac amodau'r amserlen | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y traethawd, yna rhaid ailgyflwyno traethawd 3,500 o eiriau. | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad ffurfiol ar lafar (Syniadaeth theoretig). Gall y cyflwyniad gynnwys defnydd o waith ymarferol, perfformio, cynhyrchu byw, fideo, data, sain ayb. Dylai'r cyflwyniad fod o 20 munud o hyd, gyda hyd at 20 munud o drafodaeth a chwestiynau i'r myfyriwr. Amserlennir y cyflwyniad ar ol cyfnod o 10 wythnos pan fydd myfyrwyr wedi cael gafael ar bump o gysyniadau allweddol trwy gyfrwng y sesiynau dasu ffurfiol | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 3,500 o eiriau. Amserlennir y traethawd ar ddiwedd y cyfnod dysgu cyflawn tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth ddofn ac ymwybyddiaeth feirniadol o ddamcaniaethau allweddol y cyfryngau creadigol ar lefel uwchraddedig
2. Arddangos y gallu i werthuso a chymhwyso rhai o’r damcaniaethau a astudiwyd i gyd-destun theoretig Cydgyfeiriant a'r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru gyfoes.
3 Arddangos y gallu i drafod y cyfryw ddamcaniaethau yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaethau allweddol sydd yn sylfaen athronyddol i nifer o agweddau ar astudio'r cyfryngau creadigol gyda’r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.
Cynnwys
1. Cydgyfeiriant ac Ymarfer Cymysgryw
2. Cenedlaetholdeb
3. Y filltir sgwâr a globaleiddio
4. Rhyng- a thraws-genedlaetholdeb
5. Ôl drefedigaethu ac ôl-drefedigaethedd
6. Rhywedd a'r Diwylliannau Creadigol
7.Rhamantiaeth, Moderniaeth ac Ôl Foderniaeth
8. Traddodiad Mawl a Long Durée
9. Beirniadaeth Seicolegol
10. Chwyldro a Chymundod
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio ystod o ddamcaniaethau allweddol ym maes y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o alluogi'r myfyrwyr i ddeall a herio cyd-destun creadigrwydd y diwydiannau hyn. Disgwylir i fyfyrwyr gymharu a chyfosod y theoriau hyn ynghyd a cheisio eu cymhwyso i gyd-destun y diwydiannau creadigol yng Nghymru gyfoes. Fe rydd y modiwl gyfle i fyfyrwyr drafod ac ymholi i werth a chyrhaeddiad y syniadau hyn ac i'w gosod mewn cyd-destun a fydd yn berthnasol i'w cynllun astudio neilltuol hwy.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae'r modiwl yn gosod pwyslais sylweddol ar allu cyfathrebu: fe fydd y traethawd ysgrifenedig yn profi gallu'r myfyriwr i lunio a chyflwyno dadl a dadansoddiad cynhwysfawr ar bapur; ac fe fydd y cyflwyniad llafar ffurfiol yn gofyn iddo/iddi baratoi a chyflwyno dadl yn ogystal ag ateb cwestiynau a sylwadau wedi hynny. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Fel unrhyw fodiwl sy'n trafod theori a chysyniadau, fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr fynd i'r afael a syniadau a'u cymhwyso ar gyfer eu hanghenion a'u daliadau neilltuol eu hunain. Fe fydd y modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ystyried sut y gellir trosglwyddo syniadau am ddiwylliant i gyd-destun ymarferol trwy baratoi a chynhyrchu cyflwyniad llafar ffurfiol. |
Gwaith Tim | Ni ddatblygir gwaith tim yn ffurfiol o fewn y modiwl hwn y tu hwnt i'r hyn sydd yn arferol mewn modiwlau sydd yn cynnwys seminarau. Yn yr aseiniad cyntaf, disgwylir i fyfyrwyr gyd-drafod eu gwaith ynghyd â chynnig adborth a gwneud sylwadau ar waith ei gilydd |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd y myfyriwr yn derbyn ymateb ac adborth gan y dosbarth ar yr aseiniad cyntaf (cyflwyniad llafar) ac fe rydd hyn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Lle bo'n briodol gall myfyriwr ddefnyddio technegau ymchwil a chyflwyno mewn perthynas ag ymarfer nad ydynt yn gyffredin mewn pynciau cyffelyb. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd y naill asesiad a'r llall ar gyfer y modiwl hwn yn gofyn i'r myfyriwr gyflawni ymchwil llyfrgell ac archif |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd cyfle i ddefnyddio elfennau ychwanegol o dechnoleg gwybodaeth o fewn yr aseiniad cyntaf, ond nid asesir hyn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7