Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 3 x 1 awr darlith y wythnos |
Sesiwn Ymarferol | 2 x ddosbarth ymarferol x 2 awr (ddwywaith), 1 x 3 awr (pedair gwaith) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Elfennau ymarferol yn cynnwys adroddiadau arbrofol 1000 o eiriau ac arholiad labordy (1 awr) ar sbesimenau biolegol | 40% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad theori | 60% |
Asesiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Egluro trefniant a swyddogaeth ecosystemau, gan gynnwys lefelau troffig, rôl priddoedd, rhyngweithio biotig ac egnïeg ecosystemau.
2. Arddangos gwybodaeth o fioamrywiaeth prif grwpiau fflora'r tir, gan gynnwys adnabod nodweddion enghreifftiau o blanhigion sy'n berthnasol i adnabod rhywogaethau.
3. Trafod pynciau sylfaenol sy'n rhan o gadwraeth cynefinoedd mewn ffordd wybodus.
4. Arddangos gwybodaeth o strwythur, swyddogaeth a defnydd planhigion hadog i ddyn.
5. Gwerthuso'r ffyrdd y mae gweithgaredd dyn yn ddibynnol ar egwyddorion ecolegol sylfaenol, a sut y gall gweithgaredd dyn amharu arnynt.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cyflwyno llystyfiant naturiol a chnydau, yng nghyd-destun ehangach cymunedau, cynefinoedd ac ecoleg fyd-eang. Fe'i cynlluniwyd er mwyn cyflwyno'r sgiliau sylfaenol a dealltwriaeth ecolegol i fyfyrwyr a fydd o bosibl yn chwilio am yrfa yn ymwneud ag arolygu ecolegol neu reolaeth cefn gwlad. Ond mi fydd ar yr un pryd yn wybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr sy'n ymddiddori yn ymchwil gwyddor planhigion neu wella cnydau.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn cyflwyno llystyfiant naturiol a chnydau, yng nghyd-destun ehangach cymunedau, cynefinoedd ac ecoleg fyd-eang. Fe'i cynlluniwyd er mwyn cyflwyno'r sgiliau sylfaenol a dealltwriaeth ecolegol i fyfyrwyr a fydd o bosibl yn chwilio am yrfa yn ymwneud ag arolygu ecolegol neu reolaeth cefn gwlad. Ond mi fydd ar yr un pryd yn wybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr sy'n ymddiddori yn ymchwil gwyddor planhigion neu wella cnydau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd gofyn i fyfyrwyr arddangos sgiliau cyfathrebu gwyddonol yn yr adroddiadau arbrofol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Trwy bwysleisio arwyddocâd planhigion i ddyn, cynlluniwyd y modiwl fel ei fod yn uniongyrchol berthnasol i sawl gyrfa. Dysgir y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd cefn gwlad penodol |
Datrys Problemau | Dehongli data o'r sesiynau ymarferol |
Gwaith Tim | Bydd y sesiynau ymarferol yn cynnwys elfen o weithio mewn tîm |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yr aseiniad yn cynnwys elfen ffurfiannol y bydd myfyrwyr yn derbyn adborth arni, a'r cyfle i wella eu gwaith cyn iddo gael ei ailgyflwyno ar ddiwedd y modiwl |
Rhifedd | Bydd y sesiynau ymarferol yn cynhyrchu data y disgwylir i'r myfyrwyr ei gyflwyno a'i ddehongli yn yr adroddiadau |
Sgiliau pwnc penodol | Mae'r modiwl yn disgwyl i fyfyrwyr feithrin sgiliau labordy a maes ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer sawl gyrfa fiolegol |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y sgiliau ymchwil sy'n gysylltiedig â chasglu a phrosesu gwybodaeth berthnasol |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd angen defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio a chyflwyno'r adroddiadau arbrofol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4