Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | 22 x sesiwn ymarferol 4 awr y semester |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Chwiliad llenyddiaeth (Semester 1) | 5% |
Asesiad Semester | Arolwg Llenyddiaeth (Semester 1) | 15% |
Asesiad Semester | Cynllun Prosiect (Semester 1) | 5% |
Asesiad Semester | Canlyniadau Cychwynnol (Semester 2) | 5% |
Asesiad Semester | Adroddiad Terfynol (Semester 2) | 45% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (Semester 2) | 15% |
Asesiad Semester | Marc cynnydd (Semester 2) | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Ail gyflwyno rhan a fethwyd | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod, dadansoddi a chrynhoi y llenyddiaeth wyddonol yn y maes a ddewisir.
Cynllunio a gweithredu eu prosiect unigol gyda dealltwriaeth dda o ffiseg y gwaith ac o'r llenyddiaeth cefndir.
Adnabod yr adnoddau er mwyn ymgymryd â'r prosiect unigol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn ar darparu prosiect blwyddyn olaf i fyfyrwyr BSc a phrosiect canolradd i fyfyrwyr MPhys. Bydd yr holl fyfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect a byddant yn gweithio mewn parau dan gyfarwyddyd eu goruchwylydd prosiect personol, ac yn cyflwyno eu canlyniadau mewn cyflwyniad llafar unigol ac adroddiad prosiect terfynol. Ysgrifennir adroddiadau unigol gan fyfyrwyr BSc ar eu prosiect blwyddyn olaf, tra bydd myfyrwyr MPhys yn ysgrifennu eu adroddiad prosiect â chydawdur. Cynlluniwyd nifer o gerrig milltir (strategaeth chwilio llenyddiaeth, adolygiad llenyddiaeth llawn, cynllun prosiect a dogfen canlyniadau rhagarweiniol) i gadw ffocws y prosiect ac i sicrhau bod y baich gwaith yn cael ei ddosbarthu'n weddol hafal drwy'r flwyddyn.
Nod
Mae'r myfyrwyr yn dysgu i ymchwilio problem wyddonol neilltuol o'u dewis mewn dyfnder, gan wneud defnydd llawn o'r llenyddiaeth wyddonol. Maent yn gyfrifol am gynllunio a rheoli eu prosiect, a byddant yn defnyddio dulliau cyffredin o gyflwyno eu canlyniadau gwyddonol i'r gymuned ar ffurf adroddiadau llafar ac ysgrifenedig.
Cynnwys
Cyfnod cynllunio (cynllun prosiect, adnoddau)
Cyfnod arbrofol (gwaith arbrofol, dogfen canlyniadau rhagarweiniol)
Cyfnod lledaenu (cyflwyniad llafar, adroddiad llafar)
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6