Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC20620
Teitl y Modiwl
THEATR GYMWYSIEDIG
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
TC30720 Theatr Gymhwysiedig
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddianus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 x Darlith/Seminar 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau Gweithdy 1 x 2 awr bob pythefnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dernyn ymarferol Grwp (20 munud)  50%
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Dernyn ymarferol unigol (10 munud) a sylwebaeth  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth o'r egwyddorion addysgiadol, theatraidd a deallusol cyfredol sy'n dylanwadu ar weithgarwch Theatr Gymhwysiedig.

2. Arddangos gallu i gyfrannu'n gadarnhaol at waith ymarferol, gan ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, creadigol a sgiliau ymchwil wrth greu dernyn ymarferol o Theatr Gymhwysiedig.

3. Arddangos gallu i gyflwyno dealltwriaeth o'r modd y mae proses yn rhan allweddol bwysig o'r profiad o gyflwyno Theatr Gymhwysiedig i'r perfformiwr ac i'r gynulleidfa.

4. Arddangos gallu i adfyfyrio'n deallus, yn ymarferol ac ysgrifenedig, ar y berthynas rhwng perfformwyr a chyfranogwyr mewn digwyddiadau Theatr Gymhwysiedig.

Nod

Cynigir y modiwl hwn fel un o opsiynau Ymarferion Creadigol 20 credyd Blwyddyn 2 o fewn cwricwlwm dywygiedig yr Adran. Caiff myfyrwyr gyfle i'w gymryd fel rhan o'r cwricwlwm Drama ac Astudiaethau Theatr neu fel rhan o gynlluniau Cyfrwng Cymraeg yr Adran yn dibynnu ar y llwybrau astudio penodol.

Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth o'r egwyddorion, yr ymarfer a'r ystod o wahanol fathau o Theatr Gymhwysiedig. Fe fydd hefyd yn trafod perthynas y mathau hyn o waith gyda syniadau sylfaenol ynglyn a theatr, addysg ac Astudiaethau Theatr fel pwnc.

Trwy gyfuno cyfres o weithdai ymarferol gyda gwaith darllen theoretig ac astudiaethau achos o wahanol ymarferwyr, fe fydd y modiwl hwn yn ehangu gwybodaeth y myfyrwyr o ymarfer theatraidd cyfoes, a datblygu'r gallu i ddadansoddi'r perthnasau cymhleth sy'n bodoli rhwng theori ac ymarfer yn y maes hwn.

Disgrifiad cryno

Cynlluniwyd y modiwl hwn er mwyn cynnig cyflwyniad i theatr Gynhwysiedig trwy ddadansoddi gwaith nifer o ymarferwyr blaenllaw, o Brydain a thu hwnt, o'r gorffennol a'r presennol. Fe fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth ymarferol o'r sgiliau a'r prosesau sy'n hanfodol wrth greu Theatr Gymhwysiedig, ac yn gosod enghreifftiau cyfredol o ymarfer mewn cyd-destun hanesyddol a theoretig. Disgwylir i'r myfyrwyr gymhwyso'r ymwybyddiaeth a'r wybodaeth honno trwy ddyfeisio dernyn ymarferol o waith Cymhwysiedig fel rhan o asesiad y modiwl.

Cynnwys

Dysgir y modiwl hwn trwy gyfrwng 10 x darlith/seminar 1 awr a 5 x darlith/gweithdy ymarferol 2 awr, a fydd wedi'u harwain gan aelodau staff. Bydd y pynciau canlynol yn cael eu hastudio yn y dosbarthiadau darlith/seminar a chymhwysir y syniadau ymhellach yn y gweithdai:

1. Diffiniadau o Theatr Gymhwysiedig a'r theoriau mwyaf blaenllaw.

2. Theatr-mewn-Addysg (ThMA), theatr gymunedol a pherfformio radical.

3. ThMA fel cyfrwng dysgu: diffiniadau a chyd-destun.

4. Hyrwyddwyr, cyfarwyddwyr a chyfranogwyr-berfformwyr: eu roliau gwahanol.

5. Ariannu, gwleidyddiaeth a'r Cwricwlwm Cenedlaethol: Perthynas y gwaith ag awdurdod.

6. Theatr mewn ysbytai, carchardai a thu hwnt.

7. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy.

8. Y gynulleidfa a'r gofod.

9. Technegau Ymchwil.

10. Gwerthuso rhaglenni Theatr Gymhwysiedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Un o sylfeini'r modiwl fydd datblygu gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu gyda'i gilydd a gyda chynulleidfaoedd o fathau gwahanol. Fe fydd y ddau asesiad yn ystyried a gwerthuso gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu'n ebrwydd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd y gwahanol fathau o gyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a drafodir ar y modiwl (yn ogystal a'r ystod eang o roliau y disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a hwy wrth baratoi'r Dernyn Ymarferol) yn galluogi'r myfyrwyr i ystyried y gwahanol osiynau ar gyfer gyrfa yn y maes hwn yn fwy eglur.
Datrys Problemau Fe fydd nodi problemau, datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau, a gwerthuso atebion posibl yn elfennau allweddol o'r modiwl hwn. Canolbwynt gwaith nifer o ymarferwyr a chyfranogwyr mewn darnau Theatr Gymhwysiedig yw ceisio dyfeisio strategaethau er mwyn datrys problemau, ac fe archwilir y pwyslais arbennig hwn ar ddatrys problemau yn fanwl yn ystod y modiwl.
Gwaith Tim Mae datblygu sgiliau gwaith tim yn rhan gynhenid o'r modiwl (o ran astudiaeth o astudiaethau achos y darlithoedd a'r broses o gydweithio mewn grwp). Fe fydd yn cael ei asesu wrth i diwtor y modiwl ystyried cyfraniad y myfyrwyr i waith dosbarth a gweithdy ac wrth greu'r Dernyn Ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd disgwyl i'r myfyrwyr werthuso eu cyrhaeddiad a'u perfformiad eu hunain fel prawf o'u dealltwriaeth o'r modiwl ac o'r dulliau darganfyddol o addysgu y mae'n eu cyflwyno.
Rhifedd Cyfeirir at faterion yn ymwneud a chyllido a sicrhau nawdd cyhoeddus ar gyfer Theatr Gymhwysiedig wrth gyflwyno'r modiwl, ond ni ddatblygir y sgiliau hyn yn neilltuol.
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd y myfyrwyr yn archwilio ystod o wahanol dulliau o greu perfformiadau Theatr Gymhwysiedig ar gyfer cymunedau a chynulleidfaoedd penodol.
Sgiliau ymchwil Cyflwynir nifer o sgiliau a strategaethau ymchwil (fel sy'n gyson a'r gwahanol mathau o theatr a'r gwahanol gyd-destunau ymarferol a gyflwynir wrth drafod Theatr Gymhwysiedig). Fe fydd cyfle i'r myfyrwyr i gymhwyso'r rhain a datblygu eu sgiliau ymchwil eu hunain trwy baratoi ar gyfer, ac yn sgil, darlithoedd a'r gweithdai ymarferol; ac fe gant eu hasesu mewn perthynas a'r Traethawd a'r Dernyn Ymarferol o berfformiad.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn benodol yn ystod y modiwl, os fyddant yn ddefnyddiol ac fe all myfyrwyr eu datblygu a'u hymestyn wrth gyflawni eu gwaith ymchwil eu hunain, e.e. wrth gasglu a threfnu gwybodaeth am ymarferwyr, cynulleudfaoedd ac adnoddau perthnasol. Disgwylir y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd eang o'r rhyngrwyd yn ystod y gwaith hwn ar y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5