Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
BG34010
Teitl y Modiwl
Taith Astudio Amaethyddiaeth y Flwyddyn Olaf
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | Taith maes 5 diwrnod |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig 4,500 gair ar y daith astudio | 80% |
Asesiad Semester | Seminarau'r daith astudio | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, lleoliad, arferion amaethyddol a'r economi wledig.
2. Mabwysiadu ymagwedd feirniadol, gwerthusol a dadansoddol tuag at amaethyddiaeth a'r economi wledig.
3. Gwerthfawrogi pa mor gymhleth yw gwneud penderfyniadau wrth reoli ac arallgyfeirio cefn gwlad y DU.
Disgrifiad cryno
Bydd myfyrwyr yn ymweld â sir / ardal yn y Deyrnas Unedig ar gwrs maes / taith astudio sy'n para wythnos, gan ddod i werthfawrogi ei nodweddion daearyddol, cymdeithasol ac economaidd. Defnyddir ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad fel astudiaethau achos i dynnu sylw at faterion allweddol.
Yn ychwanegol at gymryd rhan yn yr ymweliadau ac yn y seminarau gyda'r nos, bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar yr ardal. Bydd y ffordd o fynd ati drwy'r cyfan yn ddadansoddol, yn feirniadol a gwerthusol a bydd yn cynnwys adolygiad trylwyr o lenyddiaeth briodol.
Yn ychwanegol at gymryd rhan yn yr ymweliadau ac yn y seminarau gyda'r nos, bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar yr ardal. Bydd y ffordd o fynd ati drwy'r cyfan yn ddadansoddol, yn feirniadol a gwerthusol a bydd yn cynnwys adolygiad trylwyr o lenyddiaeth briodol.
Cynnwys
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ymweliadau yn ystod cwrs maes / taith astudio sy'n wythnos o hyd. Cynhelir y seminarau gyda'r nos yn dilyn yr ymweliadau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y daith astudio (gan gynnwys seminarau gyda'r nos tra ar daith) yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig yn datblygu sgiliau cyfathrebu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gwneir cysylltiadau diwydiannol yn ystod y daith astudio. |
Datrys Problemau | Bydd hyn yn rhan o'r gwaith cwrs a osodir |
Gwaith Tim | Bydd y daith astudio a'r gwaith cwrs cysylltiedig yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer rhyngweithio a thrafodaethau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd y myfyrwyr yn cael profiad ymchwilio cyn y daith astudio ac yn ystod y daith, yn ogystal â chwblhau gwaith cwrs |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd cyflwyno gwaith cwrs yn datblygu ymhellach y sgiliau TG a gyflwynwyd yn semester 1 |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6