Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY12420
Teitl y Modiwl
Cyfryngau Diwylliant
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 awr
Seminarau / Tiwtorialau 20 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  70%
Asesiad Semester (c.3,000 o eiriau)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o ddatblygiad hanesyddol y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r diwylliant Cymraeg drwy'r oesoedd. Byddant yn gyfarwydd ag agweddau a fyddai fel arall yn ddieithr iddynt (e.e. y traddodiad llafar, arysgrifau, llawysgrifau.) Byddant yn gallu arddangos gwybodaeth o'r amodau materol a bennodd i raddau ddatblygiad ac ansawdd y diwylliant a fynegwyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn bwrw golwg ar y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r diwylliant Cymraeg drwy'r oesoedd: edrychir ar y traddodiad llafar (fel cyfrwng i drosglwyddo barddoniaeth a chyfarwyddyd), ar ymddangosiad y llyfr print a datblygiad cyhoeddi yn y Gymraeg, ar y faled, ar ymddangosiad papurau newydd a chylchgronau yn y ganrif ddiwethaf, ac ar ddatblygiad y cyfryngau modern (recordiau sain, radio, ffilm a theledu a chyfryngau electronig diweddar).


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4