Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 22 awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol | 100% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr | 70% | 
| Asesiad Semester | Traethawd: 3000 o eiriau | 30% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
 
 1.	Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gyfarwydd a^ detholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a rhai o'i gyfoeswyr.
 
 2.	Byddant yn gallu diweddaru rhai cywyddau gan Ddafydd ap Gwilym i Gymraeg Diweddar.
 
 3.	Byddant yn gyfarwydd a^ hynt y gyfundrefn farddol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
 
 4.	Byddant yn gwybod am y dylanwadau cyfandirol a fu ar y canu serch Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
 
 5.	Byddant yn gyfarwydd a^ thrafod crefft ac arddull y cywydd deuair hirion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn gynefin a^ phynciau technegol fel y gynghanedd a chrefft dyfalu.
 
 6.	Byddant yn gyfarwydd a^'r ysgolheictod diweddaraf ym maes astudio'r Cywyddwyr a dylent fedru trafod barn ysgolheigion a beirniaid yn ddeallus.
 
 
 
 
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ganu Dafydd ap Gwilym a rhai o feirdd eraill y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
