Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 2 x 1 awr darlith y wythnos | 
| Eraill | 2 x ymweliad x 5 awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad ymweliad coetiroedd. | 25% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad ymweliad glaswelltiroedd. | 25% | 
| Arholiad Semester | 1.5 Awr Papur cwestiynau ateb byr. | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 50% | 
| Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Amlinellu eu dosbarthiad mewn ystod o systemau priodol;
2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar eu datblygiad;
3. Egluro rol dyn yn eu datblygiad hanesyddol;
4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol ohonynt a phynciau sy'n codi o ganlyniad;
5. Adnabod eu gwerth, eu statws a'u potensial o ran cadwraeth.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd ar. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr a'u gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethau fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau; a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.
Cynnwys

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Adroddiadau i'w hysgrifennu mewn arddull ysgrifennu gwyddonol briodol. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
| Datrys Problemau | |
| Gwaith Tim | Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
| Rhifedd | Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o adroddiad a asesir. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion mewn maes. | 
| Sgiliau ymchwil | Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Cyflwynir data ar ffurf graffiau gan ddefnyddio Excel mewn adroddiadau a asesir. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4