Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF14700
Teitl y Modiwl
Systemau a Sgiliau Cyfreithiol ar gyfer Cynlluniau BA
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 30 awr.
Seminarau / Tiwtorialau 6 awr. 3 x 1 awr yn Gymraeg pob semester
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Disgrifiad cryno

i) Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i strwythur y gyfundrefn gyfreithiol yn Lloegr a Chymru, yn cynnwys Llysoedd a thribiwnlysoedd; rol proffesiwn y gyfraith; a sut y mae'r dull amgen o ddatrys cynnen yn gweithio. Dadansoddir yn fanwl waith y Farnwriaeth wrth ddehongli deddfwriaeth a datblygiad cyfraith achosion, ynghyd a swyddogaethau'r rheithgor. Darperir dealltwriaeth drylwyr o'r byd y mae'r gyfraith yn gweithredu ynddo.

(ii) Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio'r Gyfraith yn y Brifysgol drwy eu cyflwyno i'r ystod o sgiliau y bydd yn rhaid iddynt eu meistroli os ydynt am lwyddo yn yr astudiaethau hynny. Bydd hyn yn cynnwys darllen deddfwriaeth ac achosion; dadansoddi beirniadol; ysgrifennu traethodau; nodi achosion a datrys problemau.


AM WYBODAETH BELLACH CYSYLLTWCH GWELER GF14720 MODIWL.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4