Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GA10100
Teitl y Modiwl
Tiwtorial Gwyddor Amgylcheddol Lefel 1
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  Aseiniad 1: Dod o hyd i ffynonellau amrywiol o wybodaeth. cael mynediad atynt a’u beirniadu  20%
Asesiad Semester Aseiniad 2  Aseiniad 2: Dadl mewn grŵp ar bwnc o fewn Gwyddor Amgylchedd. (5 % yn seiliedig ar waith grŵp paratoadol a chyfraniad at y ddadl; 15 % yn seiliedig ar adroddiad ysgrifenedig unigol yn crynhoi’r ddadl)  20%
Asesiad Semester Aseiniad 3  Aseiniad 3: Traethawd ysgrifenedig  20%
Asesiad Semester Aseiniad 4  Aseiniad 4: Traethawd ysgrifenedig  20%
Asesiad Semester Aseiniad 5  Aseiniad 5: Traethawd ysgrifenedig  20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1 - ailgyflwyno  Aseiniad 1: Dod o hyd i ffynonellau amrywiol o wybodaeth. cael mynediad atynt a’u beirniadu. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant.  20%
Asesiad Ailsefyll Aseniad 2 - ailgyflwyno  Aseiniad 2: Dadl mewn grŵp ar bwnc o fewn Gwyddor Amgylchedd. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant. Bydd y marc ar gyfer y gwaith grŵp yn aseiniad 2 yn sefyll.  20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 3 - ailgyflwyno  Aseiniad 3: Traethawd ysgrifenedig. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant.  20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 4 - ailgyflwyno  Aseiniad 4: Traethawd ysgrifenedig. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant.  20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 5 - ailgyflwyno  Aseiniad 5: Traethawd ysgrifenedig. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant.  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod ffynonellau priodol o ddata ac adnoddau ar gyfer Gwyddor yr Amgylchedd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, gan ddangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.

Trafod cysyniadau a syniadau allweddol mewn Gwyddor yr Amgylchedd mewn modd deallus.

Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd o arddull a safon priodol i waith cwrs lefel prifysgol.

Ymgymryd â gwaith paratoadol annibynnol priodol ar gyfer dosbarthiadau, gan gynnwys darllen ac ymchwil.

Gweithio yn gynhyrchiol fel rhan o grŵp.

Gwneud cyflwyniad llafar i grŵp bach.

Testun Llyfryn

Mae'r modiwl tiwtorial wedi'i gynllunio i fod yn fodiwl ategol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Gwyddor yr Amgylchedd (Rhan Un). Mae'n darparu sail ar gyfer cyswllt goruchwylio agos a rheolaidd gyda myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.

Nod

1 ) I gynorthwyo myfyrwyr i allu pontio rhwng Safon Uwch a phrifysgol
2) I gyflwyno myfyrwyr i gysyniadau allweddol a syniadau mewn Gwyddor Amgylcheddol
3) I helpu myfyrwyr i nodi a defnyddio ffynonellau priodol o ddata a gwybodaeth Gwyddor Amgylcheddol yn effeithiol.
4) I ddarparu cymorth ar gyfer, a chydlyniad rhwng, modiwlau craidd Gwyddor Amgylcheddol
5 ) I ddatblygu sgiliau astudio myfyrwyr
6) I ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy personol myfyrwyr.

Cynnwys

Mae craidd Gwyddor yr Amgylchedd yn cynnwys elfen tiwtorial a asesir gyda thiwtoriaid academaidd personol mewn grwpiau bach o tua pump o fyfyrwyr. Yn y modiwl datblygir sgiliau astudio personol, archwilir uchelgeisiau gyrfaol a bydd trafodaeth academaidd yn digwydd o gwmpas maes llafur wedi ei ddiffinio ym maes Gwyddor Amgylcheddol.

Mae’r gwaith cwrs academaidd yn y modiwl Tiwtorial Lefel 1 yn edrych ar y themâu sy'n deillio o'r pynciau a drafodir ym modiwlau Gwyddor Amgylcheddol y flwyddyn gyntaf a thrwy ymchwiliad o'r fath yn datblygu amrywiaeth o sgiliau astudio academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cynllunio arferion gwaith a gosod targedau academaidd a phersonol;

Defnyddio’r Llyfrgell a sut i adeiladu rhaglen ddarllen effeithiol; arddulliau o wneud nodiadau / anodi a chyfeirnodi llyfryddiaethol;

Casglu data, dadansoddi a dehongli;

Ysgrifennu o fewn Gwyddor Amgylcheddol, Ysgrifennu Traethodau a thechneg arholiad (caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sgiliau ysgrifennu da a'r nodweddion a ddefnyddir i asesu gwaith ysgrifenedig).

Gellid datblygu ac asesu’r sgiliau astudio hyn ar ffurf dau aseiniad byr. Yn y semester cyntaf, er enghraifft, gallai'r rhain gynnwys sgiliau Llyfrgell: yn yr ail semester, gallent gynnwys sgiliau ymchwil wrth gasglu ac adrodd ar ddata maes eilaidd neu leol. Bydd y marciau ar gyfer y ddau aseiniad hyn yn cael eu defnyddio yn yr asesiad terfynol. Yn ogystal, rhaid cyflwyno o leiaf pedwar traethawd a osodir gan y tiwtor, a bydd marciau o dri o'r rhain yn cael eu defnyddio yn yr asesiad terfynol. Bydd y pynciau ar gyfer y traethodau yn amrywio. Mae'r traethodau yn ffurfiannol a chrynodol a dylai myfyrwyr ddisgwyl adborth gan y tiwtor ar ôl pob darn o waith ar sut y gallant wella traethodau dilynol.

Mae'r modiwl tiwtorial yn rhoi cyfle i gymryd rhan yn uniongyrchol yn eu dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith i grŵp bach o fyfyrwyr. Ochr yn ochr a’i rôl academaidd, gall trafodaeth o adeiladu CV a gyrfaoedd ddigwydd. Bydd dyfarniad tiwtor o berfformiad cyffredinol myfyriwr yn ystod y rhaglen lawn yn ffurfio elfen olaf, fach, o asesiad y modiwl.



Disgrifiad cryno

Mae craidd Gwyddor yr Amgylchedd yn cynnwys elfen tiwtorial a asesir gyda thiwtoriaid academaidd personol mewn grwpiau bach o tua pump o fyfyrwyr. Yn y modiwl datblygir sgiliau astudio personol, archwilir uchelgeisiau gyrfaol a bydd trafodaeth academaidd yn digwydd o gwmpas maes llafur wedi ei ddiffinio ym maes Gwyddor Amgylcheddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd, yn nhrafodaethau tiwtorial.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd, wrth ddatblygu portffolio CDP a CV
Datrys Problemau Bydd, trwy ymarferion tiwtorial.
Gwaith Tim Bydd, trwy trafodaethau tiwtorial / gweithgareddau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd, trwy fyfyrio ar adborth ysgrifenedig ac ar lafar.
Rhifedd Bydd, wrth baratoi traethodau/adroddiadau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd, trwy’r traethodau a osodwyd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd, wrth baratoi traethodau/adroddiadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4