Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF34000
Teitl y Modiwl
Cyfraith Ewrop
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 3 x Seminarau 1 Awr
Darlith 16 x Darlithoedd 1 Awr
Darlith 14 x Darlithoedd 2 Awr
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Disgrifiad cryno

Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) bellach yn cynnwys corff sylweddol iawn o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol yn yr aelod-wladwriaethau ac mae hi'n amhosibl bellach i feithrin dealltwriaeth synhwyrol o gyfraith a system gyfreithiol y DU heb wybodaeth am yr UE a gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd eraill. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewrop i fyfyrwyr ac yn egluro prif nodweddion y systemau cyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd a'r rheiny sy'n codi o Gonfensiynau Ewrop. Bydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd a meysydd pwysig cyfraith sylwedd yr UE, megis y rheolau cyfreithiol sy'n rheoli'r farchnad fewnol.

AM WYBODAETH BELLACH CYSYLLTWCH GWELER GF34030 MODIWL.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6