Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HC34130
Teitl y Modiwl
Cymdeithas Cymru Fodern 1868-1950
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 5 x Seminarau 2 Awr
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Semester 3 Awr   (1 x arholiad 3 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 3 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai'r myfyrwyr allu:
a) Dangos cynefindra â chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol mewn perthynas â’r datblygiad o’r gymdeithas Gymreig yn y cyfnod 1868-1950
b) Meddwl yn feirniadol am y cysylltiadau rhwng y newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol ac arferion cymdeithasol ehangach, a'r hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol newydd a grewyd.
c) Dangos cynefindra ag ystod eang o dechnegau hanesyddol sy’n berthnasol i hanes cymdeithasol Cymru fodern
ch) Datblygu’r gallu i werthuso cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol, a lle bo’n briodol eu herio
d) Datblygu sgiliau llafar (nad ydynt yn cael eu hasesu) ac ysgrifenedig, fydd wedi cael eu gwella trwy drafodaethau mewn seminarau a thraethodau

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw bwrw golwg dros brif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru o'r 1860au ymlaen. Ymhlith y themau a ystyrir fydd twf a chwymp Cymru Anghydffurfiol Rhyddfrydol; effaith y ddau rhyfel byd ar gymdeithas Cymru; y newidiadau a ddaeth oherwydd y dirwasgiad economaidd rhwng y rhyfeloedd; a thwf y mudiad llafur.

Nod

I ystyried prif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru o'r 1860au ymlaen
I astudio theman pwysig yn hanes modern Cymru.
I ddatblygu ymwybyddiaeth o'r dadleuon a'r dadansoddiadau a gyflwynwyd gan haneswyr ar y cyfnod.

Cynnwys

Darlithoedd
1. Rhagarweiniad
2. Pobl a'u Cynefin
3. Tensiynau'r Gymdeithas Wledig
4. Cymru ac Economi yr Iwerydd
5. Merched a'r Gymdeithas
6. Crefydd a Chymdeithas
7. Addysg, Iaith a Diwylliant
8. Yr Oruchafiaeth Ryddfrydol
9. Twf Gwleidyddiaeth Llafur, 1900-1914
10. Yr Aflonyddwch Mawr
11. Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf
12. Y Byd ar ol y Rhyfel
13. Aflonyddwch Diwydiannol
14. Y Dirwasgiad
15. Y Gymdeithas Wledig rhwng y Rhyfeloedd
16. Cenedlaetholdeb a'r Gymdeithas, 1925-1939
17. Llafur a Chomiwnyddiaeth yn y 1930au
18. Yr Ail Ryfel Byd a Chymru

Seminarau
1. Cyflwyniad
2. Y Gymdeithas Wledig, 1868-1914
3. Merched yng Nghymru rhwng 1870 a 1914
4. Chwaraeon a chymdeithas
5. Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf
6. Sialens y Blaid Lafur, 1900-14
7. Streic Cyffredinol 1926 a maes glo de Cymru
8. Effaith y Dirwasgiad ar Gymru
9. Yr Ail Ryfel Byd a Chymru
10. Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6