Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC26620
Teitl y Modiwl
Dadansoddi Digwyddiad
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
TC11120 Dadansoddi Digwyddiad
Elfennau Anghymharus
TP11520 Thinking Theatr 2: Analysing Performance
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Portffolio beirniadol  (cyfwerth â 2,500 o eiriau, yn cynnwys dwy dasg x 500 o eiriau, un dasg x 1,500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester 2. Traethawd (2,500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll 1. Portffolio beirniadol (2,500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll 2. Traethawd (2,500 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Adnabod, disgrifio a thrafod ystod eang o ddigwyddiadau byw yn feirniadol

2. Arddangos gallu dadansoddol a gallu i gymhwyso ystod eang o ddigwyddiadau byw

3. Dehongli ystod eang o ddigwyddiadau byw yn feirniadol, a hynny o fewn fframwaith beirniadol priodol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn archwilio ystod eang o ddigwyddiadau byw. Cyflwynir sgiliau beirniadol a methodolegol i fyfyrwyr er mwyn eu cymell a'u galluogi i ystyried sut y gellir cymhwyso terminoleg o wahanol fathau er mwyn ymateb yn ddeallus, yn greadigol a dadansoddol i ddigwyddiadau byw. Gan ddefnyddio optig Astudiaethau Perfformio, bydd y modiwl nid yn unig yn dadansoddi cynyrchiadau theatraidd, ond hefyd yn cynnig modd i allu dadansoddi ystod eang o ddigwyddiadau byw mewn modd ystyriol a chreadigol. Conglfaen y modiwl fydd cyfres o ddigwyddiadau byw y bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu. Bydd natur y digwyddiadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn rhannol yn ddibynnol ar raglen Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd yr aseiniadau ynghlwm a pherfformiadau penodol; at hynny, bydd disgwyl i fyfyrwyr brynu Tocyn Blwyddyn Canolfan y Celfyddydau sydd yn rhoi mynediad i gyfres o berfformiadau a digwyddiadau penodedig am bris gostyngedig.

Nod

Cyflwyno diffiniadau amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynyrchiadau, dangosiadau ffilm, protestiadau, sgyrsiau a chyngherddau.

Galluogi myfyrwyr i adnabod, disgrifio, ac ymateb yn feirniadol i ystod eang o ymarferiadau a digwyddiadau perfformiadol a theatraidd.

Cyflwyno methodolegau a chysyniadau damcaniaethol priodol ar gyfer dadansoddi a dehongli'r digwyddiadau hyn; gan gynnwys holiaduron dadansoddi perfformiad, darllen systemau arwyddion, ffenomenoleg, a moddau eraill o ddehongli (ffeministiaeth, Marcsiaeth, rhywedd a rhywioldeb, astudiaethau ôl-drefedigaethol).

Ddatblygu gallu a sgiliau myfyrwyr i fyfyrio ar, ac ysgrifennu am ddigwyddiadau byw.

Cynnwys

1. Diffinio Digwyddiad a'r Broses Ddadansoddol

2. Dirnad Digwyddiad (1): Semioteg

3. Dirnad Digwyddiad (2): Ffenomenoleg

4. Y Rhagddodiad 'Ôl': Ôl-Strwythuriaeth ac Ôl-Foderniaeth

5. Ehangu'r Digwyddiad: Astudiaethau Perfformio

6. Fframweithiau Dadansoddol 1: Marcsiaeth a Beirniadaeth Farcsaidd

7. Fframweithiau Dadansoddol 2: Ffeministiaeth

8. Fframweithiau Dadansoddol 4: Rhywedd a Rhywioldeb

9. Fframweithiau Dadansoddol 3: Cyd-destunau Gwleidyddol a Diwylliannol

10. Crynhoi: Dulliau Dadansoddi

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig, ac i drafod ar lafar yn y seminarau; caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol.
Datrys Problemau Bydd cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl.
Gwaith Tim Cynhelir trafodaethau grŵp yn ystod y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno asesiadau ac yn derbyn adborth ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd cyfle felly i'r myfyrwyr wella yn sgil derbyn yr adborth hwn.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, dadansoddi symud. Yn ogystal, mae’r modiwl yn gorfodi myfyrwyr i ymdrin â llenyddiaeth damcaniaeth feirniadol am y tro cyntaf, ac yn cynnig strategaethau er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r cysyniadau a gyflwynir yn y llenyddiaeth ar gyfer dibenion dehongli celfyddyd.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach na chynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth ar gyfer y modiwl hwn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5