Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
YF11010
Teitl y Modiwl
Sgiliau Iaith
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Tasg iaith 1  Trawsieithiad 500 gair  30%
Asesiad Semester Tasg cyflwyno  Tasg Cyflwyno: Asesir sgiliau cyflwyno’r myfyrwyr yn y cyflwyniad llafar a asesir fel rhan o’r dystysgrif gyfan  40%
Asesiad Semester Tasg iaith 2  Adroddiad ysgrifenedig 1000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Deall y gwahaniaeth rhwng amryw gyweiriau yn y Gymraeg

Ysgrifennu Cymraeg academaidd cywir.

Gwneud cyflwyniad llafar yn hyderus ar gyfer amryw gynulleidfaoedd a sefyllfaoedd.

Nod

Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr y Dystysgrif Addysg Uwch yn y Dyniaethau yn ogystal ^a’r Dystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Cymdeithasol sgiliau iaith priodol yn allweddol i fyfyrwyr ym mhob maes.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gywair ac arddull academaidd wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Modiwl a ddysgir o bell yw hi fel rhan o’r Tystysgrif Addysg Uwch yn y Dyniaethau a’r Dystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Cymdeithasol.

Cynnwys

Trafodir y pynciau canlynol yn y modiwl:
1. Beth yw cywair academaidd?
2. Sut i ysgrifennu’n academaidd – defnydd o ferfau cryno, yr amhersonol, y negydd ffurfiol ayyb
3. Trawsieithu
4. Defnydd o dermau technegol
5. Defnydd o feddalwedd ieithyddol megis Cysill
6. Sgiliau Llafar a Chyflwyno

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4