Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD30120
Teitl y Modiwl
Gwerthuso ac Adlewyrchu ar Sgiliau Dysgu yn Gritigol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 1 x Gweithdy 3 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 3 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 4 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad  Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Arteffact/ Gem  Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol  40%
Arholiad Semester 6 Awr   Cyflwyniad Llafar  Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o'r gem `asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Bydd yr asesu gan gymheiriaid yn cyfrannu 10% o'r marc terfynol.  10%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Atodol  Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (gwahanol i'r uchod) (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Arteffact atodol  Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gem `asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol newydd  40%
Arholiad Ailsefyll 6 Awr   Cyflwyniad llafar atodol  Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o'r gem `asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Os na bydd hi?n bosibl i gynnal cyflwyniad llafar, gofynnir i fyfyrwyr ddarparu amddiffyniad ysgrifenedig o'r gem `asesu ar gyfer dysgu? ryngweithiol.  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r gweithdrefnau technegol sydd ynghlwm wrth gynllunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;

Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif bynciau i'r hystyried wrth gynllunio trefniadau asesu priodol.

Arddangos dealltwriaeth o sut y mae arferion asesu yn rhyngweithio a dysgu myfyrwyr;

Cynllunio a chynhyrchu gem `asesu ar gyfer dysgu? ryngweithiol;

Cyflwyno'r feirniadol amddiffyniad ar lafar o'r gem `asesu ar gyfer dysgu? ryngweithiol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn ceisio asesu'r hyn y mae myfyriwr yn ei ddysgu ac wrth wneud hynny yn codi'r cwestiynau, `pam?? ac `er lles pwy?? yn ogystal a `beth sydd i'r asesu?. Mae'r modiwl hwn yn ymwneud a rol asesu mewn cyd-destun addysgol, yn amrywio o asesu dysgu yn yr ystafell ddosbarth anffurfiol i systemau asesu yn genedlaethol. Dadansoddir enghreifftiau o arferion asesu ym mhob cam addysg, o ysgolion cynradd i addysg uwch, gyda golwg ar ddeall posibiliadau a chyfyngiadau asesu mewn cyd-destun addysgol. Rhoddir pwyslais yn arbennig ar asesu ar gyfer egwyddorion ac arferion dysgu. O'r herwydd, rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gemau rhyngweithiol wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog myfyrwyr i fyfyrio arnynt eu hunain a gwerthuso eu hunain.

Cynnwys

Darlith 1. Y broses asesu: profiad a chwestiynau.
Beth yw asesiad `da?? Rhai cysyniadau allweddol.
Darlith 2. Cynllunio cynllun asesu: manylion, cwmpas a phwrpas.
Darlith 3. Asesu ar gyfer dysgu: egwyddorion ac enghreifftiau.
Darlith 4. Systemau asesu: Y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Darlith 5. Systemau asesu: Llwybr 14-19 ? TGAU, Safon Uwch, GNVQ, Bagloriaeth Cymru, a sgiliau allweddol ac ehangach.
Darlith 6. Systemau asesu: Addysg Uwch
Darlith 7. Pynciau allweddol asesu: asesu ffurfiannol; safoni asesu athrawon; safonau cenedlaethol.
Darlith 8. Hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr.
Cyflwyniad i asesu gan gymheiriaid.
Darlith 9. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gem ryngweithiol.
Darlith 10. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gem ryngweithiol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r aseiniad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar mewn seminarau a'u hasesu drwy'r amddiffyniad ar lafar o'r gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cyflwynir myfyrwyr i gysyniad asesu ar gyfer dysgu a byddant yn sylweddoli pwysigrwydd hunanfyfyrio a hunanwerthuso.
Datrys Problemau Bydd hyn yn hanfodol i gynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Bydd y modd y mae myfyrwyr yn datrys problemau yn rhan o'r asesu.
Gwaith Tim Datblygir hyn drwy waith seminar ac asesu gan gymheiriaid.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gemau rhyngweithiol sydd wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Gofynnir i fyfyrwyr asesu cyflwyniadau llafar eu cymheiriaid.
Sgiliau ymchwil Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil fel un o'r gofynion wrth baratoi ar gyfer gweithgareddau seminar. Asesir y sgil yma drwy aseiniadau ysgrifenedig a llafar.
Technoleg Gwybodaeth Trwy anogaeth i ddefnyddio cyfleusterau TG ar gyfer cyflwyno gwaith dosbarth a gwaith i'w asesu ac i gael mynediad i wybodaeth am y cwrs drwy Blackboard. Datblygir ac asesir y defnydd o TG o fewn i gyd-destun cynllunio'r gem ryngweithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6