Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 awr yn cynnwys ymateb i ddata, atebion byr a chwestiynau arholiad | 100% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr yn cynnwys ymateb i ddata, atebion byr a chwestiynau arholiad | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.
Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.
Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.
Cynnwys
- Egwyddorion geomorffoleg, cyfundrefnau gweithgarwch, trothwyon.
 - Methiant / erydiad ar lethrau
 - Prosesau pen-y-nant a datblygiad rhwydweithiau.
 - Prosesau'r sianel: dw^r a gwaddod.
 - Geometreg hydrolig.
 - Erydiad glan a gwely.
 - Patrymau sianel a chyfraddau newid.
 - Rheoli sianeli.
 
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Sgiliau ysgrifennu traethawd wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth sefyll yr arholiad. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu traethodau a chanolbwyntio ar strategaethau rheoli pwysig a ddefnyddir yn y maes rheoli amgylcheddol. | 
| Datrys Problemau | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddeall tarddiad prosesau ffisegol allweddol a gwerthuso strategaethau a ddefnyddir i fonitro a rheoli rhannau allweddol o'r system afonol | 
| Gwaith Tim | Dim | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Darllen annibynnol yn seiliedig ar restr ddarllen | 
| Rhifedd | Bydd pwyslais ar ddeall ffurfiau'r basn mewn modd meintiol ac ar ddatrys a dadansoddi problemau rhifyddol yn yr arholiad. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Dim | 
| Sgiliau ymchwil | Darllen annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd mynediad at adnoddau helaeth y llyfrgell a'r we yn hanfodol ar gyfer datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
