Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlith | 11 x Darlithoedd 1 Awr |
| Taith Maes | 1 x Taith Faes 3 Awr |
| Gweithdy | 2 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad gwerthuso a chyflwyniad. | 40% |
| Asesiad Semester | Portffolio rheoli prosiect. | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad gweithle/sefydliad/busnes
2. Asesu gwerth a rol y swydd a'i pherthnasedd i yrfa yn y dyfodol
3. Disgrifio, ar gyfer prosiectau mewn diwydiannau'r tir, eu mathau a'u nodweddion, strategaethau ar gyfer cynllunio, a chofnodi gweithgareddau
4. Cynllunio, trefnu a pharatoi cyllideb ar gyfer prosiect gwaith pwnc-benodol priodol.
5. Cyfathrebu drwy ddefnyddio cyfryngau priodol ar gyfer gwahanol nodau a chynulleidfaoedd
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cyflwyno nodweddion gwahanol fathau o brosiectau yn niwydiannau'r tir a sut i lunio cynlluniau prosiect gyda nodau, amcanion a chaffael adnoddau. Bydd yn datblygu strategaethau ar gyfer gweithgareddau cynllunio a chofnodi. Amlinellir sut i werthuso effeithiolrwydd galluoedd gwaith staff a rhoi ar waith raglenni gwaith gydag amcanion realistig i weithlu. Asesir y gwahanol fathau o gyfryngau cyfathrebu a'u defnydd ar gyfer gwahanol nodau a chynulleidfaoedd.
Cynnwys
Caffael adnoddau a rheoli cyllideb.
Cynllunio gweithgareddau a chofnodi'r canlyniadau.
Rheoli staff a chynllunio amcanion y gweithlu.
Rol cyfathrebu a meithrin tim.
Mathau o gyfryngau a'u defnyddiau posibl.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
| Datrys Problemau | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau |
| Gwaith Tim | |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
| Rhifedd | Ymarfer costio a chynllun technegol |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau |
| Technoleg Gwybodaeth | Cyflwyno data mewn aseiniadau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
