Gwybodaeth Modiwlau
			 Cod y Modiwl
		
DA12810
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Byw gyda Risg
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2017/2018
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2
Elfennau Anghymharus
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 1 x Darlith 4 Awr | 
| Darlith | 10 x Darlithoedd 2 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad (1.5 awr) Arholiad dwy awr gydag atebion byr yn hytrach na thraethodau. | 75% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad llafar unigol. | 25% | 
| Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad (1.5 awr) Arholiad dwy awr gydag atebion byr yn hytrach na thraethodau. | 75% | 
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Cyflwyniad llafar unigol. | 25% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- Arddangos dealltwriaeth o'r syniad o risg a sut y gellir ei ddadansoddi o safbwynt daearyddol.
- Trin a thrafod enghreifftiau penodol o risg a'r ffyrdd mae'r ddynoliaeth wedi ceisio ymateb i'r rhain.
- Dadansoddi'r berthynas rhwng dealltwriaethau academaidd a pholisi o risg.
- Paratoi cyflwyniad llafar a fydd yn trafod esiampl benodol o risg daearyddol.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i gyflwyno'r myfyrwyr i'r syniad o fyw gyda risg. Beth yn union yw risg? Ble mae risg? Sut mae unigolion, gwladwriaethau a'r ddynoliaeth yn ymateg i risg? Trafodir sawl math o risg sydd yn berthnasol i'r byd cyfoes - rhai dynol, ffisegol a rhai sy'n cyfuno elfennau dynol a ffisegol. Wrth drafod risg, denir sylw at ddaearyddiaeth risg. Yn ogystal, canolbwyntir ar y ffyrdd ymarferol, e.e. ym maes polisi^au cyhoeddus, mae'r ddynoliaeth wedi ymateb i risg.
Cynnwys
 
 Bydd deg sesiwn o ddwy awr yr un a fydd yn cyfuno elfen o ddarlithio, trafodaethau seminar, tasgau grw^p a'r defnydd o fideo. Dyma strwythur y modiwl:
 
- Cyflwyniad: beth yw risg?
- Y twll yn yr haen oso^n.
- Newid hinsawdd.
- Brwydro dros ddw^r.
- Creu cyflenwadau bwyd diogel.
- Dygymod a^ thrychinebau 'naturiol'.
- Natur o dan fygythiad.
- Iechyd ac afiechyd.
- Creu byd 'diogel'.
- Heriau technoleg.
- Cyflwyniadau unigol gan y myfyrwyr
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn yr arholiad a'r cyflwyniad unigol. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y pwyslais cyson yn y modiwl ar gyd-destunau polisi y syniad o risg o fudd i'r myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd. | 
| Datrys Problemau | Ni fydd hwn yn cael ei ddatblygu yn y modiwl. | 
| Gwaith Tim | Anogir y myfyrwyr i gwblhau tasgiau grw^p fel rhan o'r modiwl ond ni chaiff y medr hwn ei asesu. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i'r myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu perfformiad eu hunain - yng nghyd-destun yr arholiad a'r cyflwyniad llafar - ond ni asesir hyn yn ffurfiol. | 
| Rhifedd | Bydd gwybodaeth rifyddol yn cael ei ddefnyddio yn y darltithoedd yn gyson ond ni chaiff y myfyrwyr eu hasesu wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Ni ddatblygir y rhain fel rhan o'r modiwl. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio ar gyfer y cyflwyniad llafar ac ar gyfer yr arholiad. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar (e.e. Powerpoint). Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr arholiad a'r cyflwyniad llafar. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
