Gwybodaeth Modiwlau
			 Cod y Modiwl
		
DA31620
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Adnoddau Dwr a Hydroleg Bydol
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2017/2018
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1
Elfennau Anghymharus
 GG31620
 
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 5 x Darlithoedd 3 Awr | 
| Darlith | 6 x Darlithoedd 2 Awr | 
| Taith Maes | 1 x Taith Faes 5 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr o hyd | 50% | 
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno?r gydran o?r Asesiad Gwaith Cwrs a fethwyd. | 50% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad 10 munud o hyd | 10% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad gwaith cwrs 3,000 o eiriau o hyd | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- gwerthfawrogi'r problemau a'r datrysiadau posib ar gyfer y prinder dwr bydol a rhanbarthol.
- deall a meddu ar sail ar gyfer ymchwil pellach i fewn i natur a rol prosesau hydrolegol sydd yn gweithredu yn yr amgylchedd daearol.
- llawn ddefnyddio'r ystod o ffynhonellau electronig modern o wybodaeth er mwyn ymchwilio i weithgareddau'r sefydliadau mawr rhyngwladol sydd yn gysylltiedig a ffynhonellau dwr byd-eang.
Disgrifiad cryno
 
 Mae'r modiwl yn cychwyn trwy edrych ar y sialesau, y patrymau a'r adnoddau sydd ar gael ar raddfa fydol. Dilynir hyn gan ddadansoddiad dwys o'r ddealltwriaeth bresennol o brosesau hydrolegol ar raddfa'r basn afon, o golledion anweddu I lwybrau dr mewn pridd a chreigiau, gan gloi gyda chyflwyniad i dduliau o fodelu hydolegol. Mae perthnasedd y prosesau yma i broblemau yn y byd go iawn yn cael ei bwysleisio ar hyd yr amser e.e. effeithiau newid llystyfiant a threfoli, ac effaith llwybrau dwr ar lygredd.
 
Mae'r modiwl yn gorffen gyda darn ar reoli adnoddau gan son am ddylunio systemau rheoli adnoddau dwr, llwyddiant a methiannau argaeau mawr, delio gyda llifogydd a sychder, gwarchodaeth amgylcheddol a iachau, hydrowleidyddiaeth, terfysgaeth rhyngwladol, bygythiad corfforaethau i allu sicrhau rhannu adnoddau'n deg, ac effeithiau rhagweladwy newid hinsawdd. Mae'r darn yn cloi gyda asesiad o rinweddau cymharol ffynhonellau newydd o ddwr o gymharu a dulliau o arbed dwr.
 
Mae addysgu yn cynnwys sesiynau ymarferol cyfrifiadurol a teithiau maes ar gyfer pob un o'r prif adrannau ac ymchwil a chyflwyniadau grwp ar faterion allweddol.
 
 
Mae'r modiwl yn gorffen gyda darn ar reoli adnoddau gan son am ddylunio systemau rheoli adnoddau dwr, llwyddiant a methiannau argaeau mawr, delio gyda llifogydd a sychder, gwarchodaeth amgylcheddol a iachau, hydrowleidyddiaeth, terfysgaeth rhyngwladol, bygythiad corfforaethau i allu sicrhau rhannu adnoddau'n deg, ac effeithiau rhagweladwy newid hinsawdd. Mae'r darn yn cloi gyda asesiad o rinweddau cymharol ffynhonellau newydd o ddwr o gymharu a dulliau o arbed dwr.
Mae addysgu yn cynnwys sesiynau ymarferol cyfrifiadurol a teithiau maes ar gyfer pob un o'r prif adrannau ac ymchwil a chyflwyniadau grwp ar faterion allweddol.
Cynnwys
 
 1) Cynnwys cyffredinol
 
 
 
 
 
 
- Y materion cyffredinol - yyr 'argyfwng dwr', effeithiau amgylcheddol, rol astudiaethau proses, a theori gwyddonol ynglyn a sicrhau echdynnu a gwarchodaeth effeithiol.
- Cromlin angen - fynhonellau o bwysau cynyddol ar adnoddau: domestig a municipal, diwydiannol, amaethyddol, a dwr gwastraff.
- Adoddau bydol - y gylchred hydrolegol, storio, dosbarthiad a chyfyngiadau.
- Asesu adnoddau a monitor prosesau, o orsafoedd arwynebol i loerennau a radar tywydd.
- Anweddu, evapodransbiryddu, a cholledion rhyng-gipiad.
- Effeithiau newid gorchudd llystyfiant ar gyfaint dwr.
- Llif trostir.
- Effeithiau trefol ar brosesau hydrolegol.
- Llwybrau dwr mewn pridd a chreigiau - ymdreiddio, lleithder pridd, llif trwodd, llif mewn pibelli, dwr daear.
- Gorchudd eira, prosesau tawddeira, rhagfynegi llif trostir tawddeira.
- Modelu llif - modelu blwchu du i fodelu synthetig, a modelu ffisegol.
- Taith Maes : Dalgylchoedd arbrofol (CEH Institute of Hydrology), Pumlumon
- Dylunio systemau rheoli adnoddau dwr, hydroleg gweithredol, rheoli adnoddau dwr integreiddiedig, trosglwyddiadau strategol ac argaeau mawr: llwyddiannau a methiannau.
- Gwarchodaeth a iachau amgylcheddol - llygredd a rheolaeth safon dwr: methiannau a rhaglenni llwyddiannus.
- Hydrowleidyddiaeth, 'rhyfeloedd dwr', a therfysgaeth amgylcheddol (cyflwyniadau dwr). Preifateiddio, commercialization, a globaleiddio, - 'y bygythiad corfforaethol'
- Bygythiad newid hinsawdd - newid prosesau ac adnoddau, dulliau o amcangyfrif a rheolaeth.
- Ffynhonellau newydd vs cadwraeth adnoddau - dadhalwyno, defnyddio adnoddau ia ac eira, cynhyrchu glaw vs metering, trwsio pibelli ayb sy'n gollwng, rheoli colledion anweddu, a dylunio trawsgludo rhyng - ddalgylvhol (cyflwyniadau grwp) Taith maes: Datblygiad adnoddau dwr, ac effaith amgylcheddol yng nghanolbarth Cymru, - Afon Rheidol, Clywedog ac Elan (1 diwrnod).
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Cyflwyniadau seminar grwp a thrafodaeth | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu diddordebau a sgiliau sydd yn ymwneud a gyrfaoedd | 
| Datrys Problemau | Adnabod ffactorau a allay ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Dadansoddi manteision ac anfanteision datrysiadau gwahanol. | 
| Gwaith Tim | Cyflwyniadau grwp a thrafodaeth | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ysgrifennu prosiect fel traethawd estynedig | 
| Rhifedd | Na | 
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygir adnabyddiaeth o offer penodol a dylunio ymchwil, dadansoddiadau o ddigwyddiadau eithafol, ac archifau data. | 
| Sgiliau ymchwil | Cyflwyniadau grwp a thraethodau estynedig unigol | 
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio archifau data ar y we, a dadansoddi gwaith sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud a dwr. Asesir drwy¿r traethawd estynedig. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
