Gwybodaeth Modiwlau
			 Cod y Modiwl
		
DA32220
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2017/2018
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr | 
| Taith Maes | 1 x Taith Faes 9 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 3,000 o eiriau a fydd yn gwerthusor themau a drafodwyd yn Rhan 1 | 50% | 
| Asesiad Semester | Cynhyrchu poster academaidd a fydd yn trafod arwyddocad cenedlaetholdeb mewn un maes polisi | 30% | 
| Asesiad Semester | Creu blog (5 cyfraniad gyda chyfanswm o o leiaf 1,500 o eiriau) a fydd yn trafod esiamplau cyfredol o arwyddocad cenedlaetholdeb | 20% | 
| Asesiad Ailsefyll | Bydd raid ail-gyflwynor elfennau a fethwyd. Ni ellir ail-sefyll y elfennau a baswyd ond, yn hytrach, defnyddir y marc gwreiddiol ar gyfer yr elfen honno. | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Gwerthuso'n feirniadol y syniad o gendlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono.
Trafod yn feirniadol dehongliadau perthynol o genedlaetholdeb.
Dadansoddi gwerth cysyniadau ar gyfer deall arwyddocad cenedlaetholdeb ym maes polisi.
Cynhyrchu poster academaidd o safon uchel.
Creu blog o safon uchel.
Disgrifiad cryno
 
 Amcan y modiwl yw i gyflwyno syniadau mwyaf blaengar ynghylch daearyddiaethau cenedlaetholdeb i fyfyrwyr. Yn y pum darlith cyntaf, cyflwynir myfyrwyr i'r syniad o'r genedlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono yn benodol. Pwysleisir yn y rhan yma yr angen i feddwl am y genedl fel endid cymdeithasol a gofodol sydd wedi ei greu ar sail rhwydweithiau o bobl a phethau amrywiol. Yn ail hanner y modiwl, trafodir goblygiadau'r syniadaeth hon ar gyfer pum pwnc trafod o bwys academaidd a pholisi ym maes cenedlaetholdeb: y broses o greu neu adeiladu cenhedloedd; y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth; amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol; y ffordd yr eir ati i frandio a gwerthu'r genedl; celfyddyd a'r genedl.
 
Asesir y modiwl trwy draethawd 3,000 o eiriau (50%), a fydd yn ffocysu ar y syniadau mwy cysyniadol a gyflwynwyd yn Rhan 1, poster academaidd (30%) a fydd yn canolbwyntio ar arwyddocad y cysyniadau hyn ar gyfer deall cenedlaetholdeb mewn un maes polisi penodol, a blog, lle bydd gofyn i'r myfyrwyr i ysgrifennu 5 cyfraniad sy'n dod at 1,500 o eiriau lle byddant yn sylwebu ar esiamplau cyfoes o arwyddocad cenedlaetholdeb (20%).
 
Cynnwys
 
 Rhan 1: Cynhyrchu'r genedl berthynol
1. Cyflwyniad i'r genedl - o Westphalia at y presennol
2. Cofnodi'r genedl: tirlun, cof, a phwer
3. Y genedl rhwydweithiedig I: actorion, rhwydweithiau, a diaspora
4. Y genedl rhwydweithiedig II: nodau, lleoedd, a llifau
5. Ffinio'r genedl: cynhyrchiad beunyddiol tiriogaeth, gofod, a graddfa
 
Rhan 2: Deall cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn'
6. Creu cenhedloedd: swyddogoli a sefydliadu
7. Dinasyddiaeth genedlaethol: ffurfioli a negodi aelodaeth
8. Peiriau dad-eni: amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol
9. Celfyddyd a chenedlaetholdeb: darganfod einioes y genedl
10. Brandio'r genedl: ad-nwyddo, globaleiddio, a chystadleuaeth
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r traethawd, y poster a'r blog. Ysgogir y myfyrwyr i drin a thrafod syniadau yn y darlithoedd ond ni asesir hyn. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Golyga'r pwyslais ar astudio cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn' bod anogaeth ar i'r myfyrwyr i feddwl am y cysylltiadau rhwng syniadau academaidd a byd gwaith | 
| Datrys Problemau | Bydd raid i'r myfyrwyr i ddatrys problemau academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog. | 
| Gwaith Tim | Ni ddatblygir hyn fel rhan o'r modiwl | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i drefnu eu hamser eu hunain ac i ymchwilio ac ysgrifennu'n gyson ar gyfer y blog yn benodol | 
| Rhifedd | Ni ddatbygir y sgil hwn yn benodol | 
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Bydd raid i'r myfyrwyr i wneud ymchwil academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i'r myfyrwyr feistroli technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau ac, yn benodol, wrth baratoi'r poster a'r blog | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6