Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Ymarferol | 11 x Sesiynau Ymarferol 3 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Dyddiadur labordy ysgrifenedig | 60% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad ffurfiol ysgrifenedig | 20% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar | 20% | 
| Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y bwrdd arholi adrannol | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
 1. Cyflawni arbrofion syml mewn ffiseg sylfaenol 
 2. Cyflawni dadansoddiad syml o gyfeiliornadau mewn mesuriadau 
 3. Llunio casgliadau priodol o ganlyniadau
 4. Cyflwyno a dadansoddi gwaith mewn dyddiadur labordy 
 5. Disgrifio gwaith mewn adroddiad ffurfiol 
 6. Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar
 
 
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn ar Ffiseg Labordy yn gyflwyniad i ffiseg arbrofol. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio offerynnau sylfaenol, gwneud cyfrifiadau cyfeiliornadau syml ac asesu'r canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynadwy. Mae'r arbrofion wedi'u cynllunio i adlewyrchu testunau damcaniaethol a gyflwynir mewn modiwlau eraill – felly mae'r arbrofion yn cwmpasu priodweddau mater, grymoedd a mecaneg yn ogystal ag agweddau eraill o ffiseg sylfaenol. Datblygir sgiliau cyflwyno yng nghyd-destun yr arbrofion.
Cynnwys
Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith mewn Dyddiadur Labordy lle nodir cynnydd manwl pob arbrawf, ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a rhoi cyflwyniad llafar
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Cofnodi arbrofion yn y dyddiadur labordy. Cyd-weithio mewn grwpiau bychain i gyflawni arbrofion. Cyfathrebu canlyniadau drwy adroddiad ffurfiol a chyflwyniad llafar. | 
| Datrys Problemau | Caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni'r arbrofion a chynnig dulliau a datrysiadau. | 
| Gwaith Tim | Mae'r myfyrywr yn gweithio mewn grwpiau bychain ar bob arbrawf ymarferol. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ystyried y gwaith yn feirniadol ac adlewyrchu i asesu'r modd y cyflawnwyd arbrawf a sut y gellid ei wella. | 
| Rhifedd | Mae sgiliau mathemategol yn ganolog i ddeall a chymhwyso ffiseg. Cofnodi data wrth wneud arbrofion ffiseg. Cymhwyso dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau. Asesir drwy ddyddiaduron labordy ac adroddiad ffurfiol | 
| Sgiliau pwnc penodol | Cymhwyso ffiseg sylfaenol i ddulliau arbrofol. | 
| Sgiliau ymchwil | Mae angen ymchwil cefndirol a sgiliau cyfeirio elfennol ar gyfer adroddiad ffurfiol. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir prosesydd geiriau i baratoi'r adroddiad ffurfiol. Defnyddir PowerPoint neu becyn cyfatebol yn y cyflwyniad llafar. Defnyddio offer arbrofol sylfaenol. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3
