Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr | 
| Seminar | 5 x Seminarau 1 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,000 o eiriau | 50% | 
| Arholiad Semester | 1.5 Awr (1 x arholiad 1.5 awr) | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,000 o eiriau | 50% | 
| Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 1.5 awr | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth o’r datblygiadau allweddol yn Ewrop rhwng 1100 a 1540.
Myfyrio ar a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol o’r Oesoedd Canol.
Dangos ymwybyddiaeth o'r trafodaethau hanesyddiaethol ynglŷn ag Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig wrth drafod y cyfnod.
Disgrifiad cryno
Roedd yr Oesoedd Canol yn gyfnod o ddatblygiadau mawr, ond hefyd o wrthgyferbyniad rhwng awdurodod mawr sefydliadau fel yr Eglwys a’r frenhiniaeth, a’r gwrthryfel yn erbyn yr awdurdod yma. Bydd y modiwl hwn yn astudio nifer o brif themâu y cyfnod – o’r pab i’r pla du ac o farchogion i hereticiaid – gan ganolbwyntio ar yr awdurdod a’r ffydd a fodolai yn y gymdeithas, a’r argyfwng a’r gwrthdaro a rwygodd y gymdeithas yma. Edrychir ar y sefydliadau o awdurod yn ogystal â’r heriau economaidd, crefyddol a gwleidyddol oedd yn bygwth y rhain. Byddwn yn edrych ar Ewrop yn gyffredinol ond ar Ynysoedd Prydain yn fwy penodol, gan weld sut y newidiwyd y cyfandir yn ystod y cyfnod o 1100 i 1540. Y nod yw rhoi cyflwyniad i’r Oesoedd Canol a darparu sylfaen i astudio’r Oesoedd Canol yn fanylach yn rhan dau.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themâu pwysig yn hanes yr Oesoedd Canol a phrif ddatblygiadau’r cyfnod. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn sylfaen ar gyfer astudio’r Oesoedd Canol ymhellach yn rhan 2.
Cynnwys
1. Cyflwyniad: Ewrop Ganoloesol
2. Awdurdod a dylanwad yr Eglwys
3. Seintiau, creiriau a phererindota
4. Urddau crefydd
5. Brenhinoedd a theyrnasoedd
6. Marchogion a rhyfela
7. Croesgadau 1: y Tir Sanctaidd
8. Croesgadau 2: ymestyn ffiniau Gwledydd Cred
9. Brenhinoedd a'r Eglwys: cydweithio neu wrthdaro?
10. Prifysgolion
11. Gwrthryfeloedd a rhyfeloedd cartref
12. Y Pla Du
13. Masnach ac argyfyngau economaidd
14. Y Sgism Mawr
15. Heresi
16. Twf trefol
17. Y Diwygiad Protestannaidd
18. Casgliadau: Ewrop erbyn 1540
Seminarau:
1. Dylanwad yr Eglwys
2. Awdurdod y Brenin
3. Croesgadau
4. Y Pla Du
5. Y Diwygiad Protestannaidd
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. | 
| Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig | 
| Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad | 
| Rhifedd | n/a | 
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd. | 
| Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
