Gwybodaeth Modiwlau
			 Cod y Modiwl
		
MOR0510
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Dulliau Darllen
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2017/2018
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Seminar | 2 x Seminarau 8 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Asesu 3,000 o eiriau | 100% | 
| Asesiad Ailsefyll | Asesu 3,000 o eiriau | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
 
 Dangos y gallant ddarllen deunydd ymchwil yn eu maes yn feirniadol
 Deall sut i fynd i'r afael ag amrywiaeth o destunau mewn modd priodol
 Arfer gwahanol ddulliau darllen wrth ymdrin a ffynonellau
 Dangos eu bod yn ymwybodol o seiliau damcaniaethol y gwahanol dduliau hyn
 
 
Disgrifiad cryno
Ffocws y modiwl fydd y gwahanol 'ddulliau darllen' a ddefnyddir gan ymchwilwyr wrth eu gwaith, Bydd yn gyfle i ddeall sut mae ymchwilwyr profiadol yn darllen i ategu eu hymchwil. Bydd cyfle i fyfyrwyr weithio ar dasgau a osodir gan yr ymchwilwyr gwadd ac fe'u hanogir i gymhwyso profiad y siaradwyr at eu hymchwil eu hunain.
Cynnwys
- Darllen y llafar: cyflwyniad i ddulliau ymchwil ieithyddol
- Darllen ffilm
- Darllen barddoniaeth
- Testunau a chyfieithu
- Golygu testunau canoloesol
- Darllen y gyfraith
- Darllen Delweddau
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir y gallu i rannu, trafod a chyflwyno syniadau mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol. | 
| Datrys Problemau | Datblygir y gallu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o destunau mewn modd priodol | 
| Gwaith Tim | Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y gallu i ddarllen deunydd ymchwil yn eu maes yn feirniadol | 
| Rhifedd | Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am sut y defnyddir gwybodaeth rifyddol mewn testunau, e.e. sut y dewisir y wybodaeth hon a paham. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygir y gallu i weithio â thestunau mewn mwy nag un iaith a thestunau a astudir mewn cyfieithiad. | 
| Sgiliau ymchwil | Datblygir: - Y gallu i arfer gwahanol ddulliau darllen wrth ymdrin â ffynonellau - Ymwybyddiaeth o seiliau damcaniaethol gwahanol ddulliau darllen | 
| Technoleg Gwybodaeth | Datblygir: Gallu wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau; Y gallu i ddefnyddio ffynonellau ar lein wrth ymchwilio. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
