Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr | 
| Gwylio Ffilm | 10 x Sesiynau Gwylio 3 Awr | 
| Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 1 | 40% | 
| Asesiad Semester | Traethawd 2 | 60% | 
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 (teitl newydd) | 40% | 
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 (teitl newydd) | 60% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
 
 1.	Datblygu dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol a diwydiannol sinema prif ffrwd America drwy astudio ffilmiau Hollywood
 
 2.	Arddangos dealltwriaeth o arferion cynhyrchu - o derminoleg dechnegol i benderfyniadau estheteg, a'r dewisiadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr- trwy astudio arddull ffilmiau Hollywood. 
 
 3.	Ddechrau datblygu ymwybyddiaeth o brif themâu a gogwyddau beirniadol sy'n bodoli o fewn disgyrsiau a gysylltir â ffilmiau Hollywood.
 
 4.	Dadansoddi amrediad o ffilmiau a ddangosir mewn modd addas ar gyfer lefel eu hastudiaeth.
 
 
Disgrifiad cryno
Nod
Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio ffilmiau a diwylliant Hollywood o'r cyfnod clasurol hyd at heddiw. At hynny, cyflwynir myfyrwyr i gorff o waith damcaniaethol sy'n archwilio cyfraniad ffilm i ddiwylliant gyfoes.
Cynnwys
1. Y System Stiwdio
2. Arddull Hollywood Glasurol
3. System Sêr
4. Tanseilio'r System Stiwdio
5. Hollywood Ôl-Glasurol
6. Blockbusters
7. Dadeni Hollywood
8. Merchandise
9. Ffilmiau Annibynnol
10. Hollywood heddiw
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. | 
| Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. | 
| Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. | 
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
