Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
YF11110
Teitl y Modiwl
Dafydd ap Gwilym
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1  Traethawd 1,500 gair yn canolbwyntio ar gyd-destunau Dafydd ap Gwilym  35%
Asesiad Semester Postiadau ar flog  Postiadau ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn trafod y gwaith darllen  30%
Asesiad Semester Traethawd 2  Traethawd 1,500 gair yn canolbwyntio ar gywyddau unigol Dafydd ap Gwilym  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod prif nodweddion Cymraeg Canol

Dehongli cywyddau Dafydd ap Gwilym yn feirniadol

Deall cyd-destunau barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol

Nod

• Cynnig brasolwg ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym
• Cyflwyniad i nodweddion Cymraeg Canol
• Cyflwyniad i gyd-destunau diwylliannol, cymdeithasegol a hanesyddol testunau llenyddol
• Paratoi myfyrwyr ar gyfer testunau canoloesol Cymraeg eraill

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn cynigir cyflwyniad i farddoniaeth Dafydd ap Gwilym a’i hiaith yn ystod yr Oesoedd Canol. Gwneir hyn drwy gyfres o gyflwyniadau a sgyrsiau gan dynnu sylw at brif nodweddion Cymraeg Canol, gan gynnig cyd-destun llenyddol, diwylliannol, cymdeithasegol a hanesyddol i’r testunau, a chan drafod eu harwyddocâd.

Cynnwys

Cyflwyniadau ar ffurf fideo/mp3/pdf
1. Cyflwyniad i waith Dafydd ap Gwilym a’r ysgolheictod sy’n gysylltiedig ag ef
2. Y Gyfundrefn Farddol
3. Llawysgrifau sy’n cynnwys gwaith Dafydd ap Gwilym
4. Dulliau Llenyddol (gan roi sylw arbennig i’r cywydd)
5. Cyflwyniad i Gymraeg Canol (gan roi sylw arbennig i gystrawen)
6. Y Cyd-destun Hanesyddol a Chymdeithasol
7. Trafod Cywyddau Unigol (e.e. ‘Merched Llanbadarn’, ‘Diolch am Fenig’, ‘Mis Mai a Mis Tachwedd’, ‘Yr Wylan’, ‘Y Pwll Mawn’, ‘Yr Adfail’, ‘Tri Phorthor Eiddig’, ‘Morfudd fel yr Haul’, ‘Morfudd yn Hen’)

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4