Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 20 x Seminarau 1 Awr |
Gweithdy | 40 x Gweithdai 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ymarferion Wythnosol Semester 1: 10 o Ymarferion Wythnosol (gosodir tasg wythnosol, sef amrywiaeth o dasgau cyfieithu, cywiro ac ysgrifennu rhydd) | 20% |
Asesiad Semester | Ymarferion Wythnosol Semester 2: 10 o Ymarferion Wythnosol (gosodir tasg wythnosol, sef amrywiaeth o dasgau cyfieithu, cywiro ac ysgrifennu rhydd) | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ysgrifennu’n hyderus yn y cywair llenyddol, ffurfiol.
dangos dealltwriaeth o’r modd y defnyddir system ferfol y Gymraeg (amserau’r ferf; moddau gweithredol a goddefol)
llunio cymalau perthynas yn gywir
sut i lunio cymal enwol yn gywir
llunio cymalau amodol yn gywir
deall sut y mae pwyslais yn gweithio yn y Gymraeg.
deall sut mae llunio cymalau adferfol yn gywir
defnyddio rhagenwau personol yn gywir (rhai blaen, ôl mewnol)
llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir
llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.
Disgrifiad cryno
Nod
Y rhesymeg dros y modiwl craidd hwn yw bod angen i gwricwlwm i fyfyrwyr ail iaith osod seiliau cadarn mewn gramadeg a Chymraeg ysgrifenedig. Ceir modiwl cyfatebol sy’n atgyfnerthu Cymraeg anffurfiol a sgiliau llafar (CY11620)
Cynnwys
• Y gystrawen
• Y ferf ‘bod’ – presennol, dyfodol/arferiadol
• Y ferf ‘bod’ – perffaith
• Y ferf ‘bod’ – amherffaith/gorberffaith
• Y ferf ‘bod’ – amodol + gorffennol arferiadol
• Amserau gorffennol y ferf; Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno gorffennol
• Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno: presennol/dyfodol
• Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno: amherffaith/amodol
• Adolygu terfyniadau berfau cryno
• gwybod/adnabod
Semester 2
• gweithredol/goddefol; amhersonol
• gorchmynnol; gwneud awgrym; gwneud cais
• berfau cynorthwyol; gwrthrych berfenw
• amodau: os, pe, oni
• y cymal enwol
• cymalau adferfol
• cymalau perthynol, rhywiog ac afrywiog; pwyslais/blaenoli
• treigliadau (y fannod); cystrawen y genidol.
• Ansoddeiriau; cymharu ansoddeiriau
• Rhagenwau personol; rhagenwau mewnol; arddodiaid personol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif 4 |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4