Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG26020
Teitl y Modiwl
Ffiseg Mathemategol
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
(MA10610 neu MT10610); a (PH16210 neu FG16210) neu (MA11210 neu MT11210).
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Gweithdy 11 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 3 Awr   Ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Asesiad: 2 BRAWF  30%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Mynegi systemau a pherthnasoedd ffisegol gan ddefnyddio iaith fathemategol fectorau, hafaliadau differol a theori Fourier.
2. Defnyddio fectorau, meysydd fector, algebra fector a systemau cyfesurynnau gwahanol i ddadansoddi problemau ffisegol mewn gofod 3-dimensiwn.
3. Enrhifo integrynnau llinell, arwyneb a gofod. Defnyddio theoremau Stokes, Green a dargyfeiriad.
4. Cymhwyso gwahanol ddulliau i ddatrys amrywiol fathau o hafaliadau differol.
5. Dosbarthu, dadansoddi a datrys hafaliadau differol trefn-dau mewn amryw o gyd-destunau ffisegol.
6. Disgrifio ac egluro cysyniadau dadansoddiad Fourier, ffaltwng a chydberthyniad a chymhwyso technegau dadansoddiad Fourier i broblemau mewn systemau ffisegol.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu dulliau mathemategol i fodelu systemau ffisegol. Mae o bwysigrwydd sylfaenol i holl gynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg ac yn addas ar gyfer nifer o gynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn datblygu amrywiaeth o theoriau mathemategol: ddadansoddiad fector, hafaliadau differol a dadansoddiad Fourier. Cymhwysir y rhain i fodelu a datrys problemau mewn nifer eang o sefyllfaoedd ffisegol; electrostateg, magneteg, disgyrchedd, mecaneg, thermodynameg, ffiseg plasma, ffiseg atmosffer a mecaneg hylif.

Cynnwys

Dadansoddiad fector: lluoswm triphlyg sgalar a fector, gwerthoedd eigen a fectorau eigen, cyfesurynnau polar, meysydd sgalar a fector 3-D, graddiant, dargyfeiriad a chwrl meysydd 3-D, gweithredydd fector, integrynnau llinell, integrynnau arwyneb. Hafaliadau differol: hafaliadau differol cyffredin o unrhyw drefn, hafaliadau differol cydamserol, hafaliadau differol rhannol, problemau gwerth eigen. Dadansoddiad Fourier o signalau, paramedrau cyflenwol (e.e. amledd ac amser), trawsffurfiadau Fourier.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5