Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Gwerthfawrogi y rhesymau gwahanol am deithio a fodolai yn yr oesoedd canol a pha mor allweddol oedd teithio i grwpiau gwahanol.
2. Trafod profiadau teithwyr o fewn eu cyd-destunau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a chrefyddol.
3. Deall a gwerthuso gwahanol drafodaethau a dadansoddiadau a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.
4. Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol.
5. Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.
Nod
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am y ffactorau a effeithiai ar symudedd ac effaith teithio ar gymdeithas.
Disgrifiad cryno
Gwelwyd eisoes yn rhan gyntaf y modiwl bod teithio yn rhan bwysig o fywyd Canoloesol. Yn yr ail ran fe edrychir ar wahanol fathau o deithwyr er mwyn ymchwilio’r amrywiol brofiadau teithio ac effaith teithio ar gymdeithas: teithwyr fel pererinion, milwyr, myfyrwyr a masnachwyr. Trwy edrych ar amrywiaeth o ffynonellau ceir syniad o bwysigrwydd teithio o fathau gwahanol a chael golwg manwl ar brofiadau teithwyr unigol. Gwelir yma y cyfoeth profiad a’r amrywiaeth a fodolai ymysg teithwyr Canoloesol.
Cynnwys
Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un. Dyma syniad o’r seminarau:
1. Cyflwyniad: teithwyr yr Oesoedd Canol
2. Pererinion
3. Milwyr a hurfilwyr
4. Myfyrwyr
5. Beirdd a diddanwyr
6. Masnachwyr
7. Teithio i lys y Pab
8. Penseiri a chrefftwyr
9. Llywodraethu’r deyrnas
10. Casgliadau: cymdeithas llawn teithio?
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Ddim yn briodol |
Sgiliau pwnc penodol | Ddim yn briodol |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6