Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MOR9005
Teitl y Modiwl
Moeseg, Llenladrata ac Ymarfer Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno elfennau methu 
Asesiad Semester Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect ymchwil. Gellir gwneud hyn ar-lein. Bydd angen i'r cynllun fod yn addas ar gyfer y prosiect ymchwil a chael ei gymeradwyo gan yr arolygydd.  30%
Asesiad Semester Ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau yn y gweithdy. Bydd yr ymarferion yn trafod a) adnabod achosion o lenladrata, b) pa faterion moesegol all ymddangos mewn ymchwil, a c) yr hyn a ddylid ei wneud gyda data. Bydd yr ymarferion yn cael eu cwblhau mewn amgylchedd grwp bach a byddant yn cael eu hasesu gan gyfoedion (darperir meini prawf asesu priodol).  30%
Asesiad Semester Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein ar gyfer eu prosiect ymchwil yn llwyddiannus. Golyga hyn bod y person priodol yn eu Hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil) wedi ei gymeradwyo.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. deall ac asesu llenladrata yn eu gwaith ysgrifenedig (a gwaith eraill), a'i werthuso yn feirniadol.
2. deall ac asesu materion moesegol eu prosiect ymchwil eu hunan, a'u gwerthuso yn feirniadol.
3. deall hawlfraint, gwarchod data, ac anghenion storio data mewn perthynas a'u hymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae'n angenrheidiol fod gan fyfyrwyr PhD/MPhil ddealltwriaeth fanwl o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint a.y.b. ar ddechrau eu cwrs. Bydd y modiwl hwn yn darparu arolwg/cyflwyniad pwrpasol. Bydd y modiwl mewn ffurf gweithdy a fydd yn ffocysu ar Foeseg Ymchwil a Materion Ysgrifennu. Bydd hyn yn cynnwys, moeseg, materion llenladrata, cyfrinachedd, hawlfraint, gwarchod data, rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu, ac anghenion storio data. Bydd proses foesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnwys.

Nod

Darparu dealltwriaeth o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint , a.y.b. i fyfyrwyr PhD/MPhil. Amlygu system moesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth i'r myfyrwyr.

Cynnwys

Cyflwynir y modiwl fel gweithdy un diwrnod yn trafod yr agweddau perthnasol. Mae'r gweithdy yn cynnwys ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau. Dilynir hyn gan y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil ar-lein ar gyfer cymeradwyaeth moesegol, gan fod angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y person priodol yn eu hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil). Yn ogystal, bydd angen cwblhau cynllun rheoli data (gan ddefnyddio adnoddau ar-lein).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Rhwydweithio yn ystod y gweithdy
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymhob agwedd.
Datrys Problemau
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn ystod y gweithdy
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Cymeradwyo moesegol a chynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect eu hunan.
Sgiliau ymchwil Yn ystod y gweithdy ac ar ol y gweithdy.
Technoleg Gwybodaeth Proses cymeradwyo moesegol ar-lein

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7