Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA22810
Teitl y Modiwl
Daearberyglon
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad poster  (Poster cynhadledd)  50%
Asesiad Semester Ffilm 5 munud  (Ffilm astudiaeth achos (grŵp)  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster  (Poster cynhadledd)  50%
Asesiad Ailsefyll Bwrdd stori ar gyfer ffilm 5 munud  (Bwrdd stori, wedi ei gynhyrchu’n unigol ac wedi ei gyflwyno fel dogfen)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn digwyddiadau peryglus, a dangos dealltwriaeth o senarios yn y dyfodol.

2. Asesu risg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.

3. Cynnig strategaethau lliniaru effeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o ddaearberyglon.

4. Creu ffilm sy'n cyfathrebu astudiaeth achos allweddol i gynulleidfa Safon Uwch.

Disgrifiad cryno

Yn Daearberyglon fe'ch cyflwynir i ddigwyddiadau peryglus ar draws y byd, gan archwilio’r prosesau ffisegol, effeithiau ar gymdeithas a strategaethau lliniaru ar gyfer peryglon o'r fath. Byddwch yn ystyried tueddiadau hanesyddol mewn peryglon, a rhagolygon y dyfodol mewn hinsawdd sy'n newid.

Cynnwys

Trafodir amrywiaeth o themâu, a all gynnwys tywydd eithafol, llifogydd, peryglon rhewlifol, peryglon seismig a folcanig, a pheryglon o’r gofod.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys: darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at wahanol ddibenion; ysgrifennu at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at wahanol ddibenion; cyfathrebu trwy asesiad ffilm.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u sgiliau personol, eu credoau a'u rhinweddau.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn adnabod ffactorau a all ddylanwadu ar atebion lliniaru posib, gan werthuso manteision ac anfanteision atebion o’r fath.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o ddeinameg grŵp, yn cyfrannu at osod nodau grŵp, yn cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp, ac yn chwarae rhan weithgar mewn gweithgareddau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Heb ei asesu’n ffurfiol.
Rhifedd Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rhif, gan gynnwys dadansoddi ystadegau o dueddiadau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o ddaearberyglon ym maes pwnc y myfyriwr.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn dadansoddi ffynonellau academaidd ac an-academaidd ac yn cynhyrchu adroddiadau academaidd priodol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin, ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu sy'n cynnwys gwybodaeth a data. Bydd myfyrwyr yn defnyddio technoleg ffilm.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5