Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM1300
Teitl y Modiwl
Astudiaethau Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Rhagofynion
Gofynion mynediad TAR
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  2000 gair (cyfwerth) Dyddlyfr proffesiynol myfyriol a ddatblygwyd dros y flwyddyn, sy'n trafod y themâu a godwyd yn y modiwl hwn: Cwricwlwm a gofynion Statudol; Ymarfer Proffesiynol - Rolau a Chyfrifoldebau; Materion sy'n effeithio ar ddysgu; Polisi Addysg yng Nghymru; Datblygiad Proffesiynol a Dysgu Gydol Oes; Amddiffyn a Diogelu Plant.  40%
Asesiad Semester 4000 gair. Prosiect ymholiad ymchwiliol i oblygiadau addysgeg mater a adnabuwyd yn yr ystafell ddosbarth.  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid ail-gymryd pob elfen a fethodd o'r asesiadau os yw marc cyfartalog y myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol o 50%. Bydd hyn yn gofyn am gwestiynau newydd, cynllun gwers newydd a sesiwn addysgu. 
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1  2000 gair (cyfwerth) Dyddlyfr proffesiynol myfyriol a ddatblygwyd dros y flwyddyn, sy'n trafod y themâu a godwyd yn y modiwl hwn: Cwricwlwm a gofynion Statudol; Ymarfer Proffesiynol - Rolau a Chyfrifoldebau; Materion sy'n effeithio ar ddysgu; Polisi Addysg yng Nghymru; Datblygiad Proffesiynol a Dysgu Gydol Oes;  40%
Asesiad Ailsefyll 4000 gair. Prosiect ymholiad ymchwiliol i oblygiadau addysgeg mater a adnabuwyd yn yr ystafell ddosbarth.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Tystiolaeth o ddealltwriaeth feirniadol o'r disgwyliadau cwricwlaidd a deddfwriaethol i athrawon yng Nghymru.

2. Dangos dealltwriaeth gysyniadol feirniadol a chymhwysiad o faterion sy'n effeithio ar ddysgu.

3. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o'r disgwyliadau proffesiynol ar athrawon a'r angen am ddatblygiad proffesiynol parhaus.

4. Arddangos yn feirniadol ddealltwriaeth dda o sut y gellir cymhwyso ymchwil a theori yn ymarferol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl craidd hwn wedi'i gynllunio i fodloni Cylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif: 008/2017, Meini Prawf ar gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi pwyslais cryf ar ddeall y cwricwlwm a'r gofynion sgiliau, a sut y gellir bodloni'r gofynion statudol hyn o fewn y system addysg yng Nghymru. Er mwyn hwyluso natur integredig y rhaglen, byddwch yn cael trosolwg o'r system addysg gyfan yng Nghymru, gan sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o'r continwwm dysgu o'i fewn. Bydd y modiwl hwn hefyd yn rhoi ystyriaeth i'ch dealltwriaeth o'r materion niferus sy'n effeithio ar ddysgu a bydd hefyd yn eich galluogi i ystyried sut i ddod yn ddysgwr gydol oes drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus. Bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn i chi gynllunio ac addysgu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol a phriodol. Byddwch hefyd yn ystyried y disgwyliadau proffesiynol o fod yn athro effeithiol.

Cynnwys

Yn y modiwl hwn, trafodir yr unedau canlynol mewn perthynas â'r Safonau newydd ar gyfer HGA, fel y’i dangosir yn Schemapp 1 Adran B. Mae'r unedau cynnwys ar gyfer 8 wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn ac yn nodi'r cynnwys craidd ar gyfer pob elfen o'r modiwl. Mae pob uned yn 1.5 awr - cyfuniad o ddarlith / seminar. Bydd y rhain yn darparu'r egwyddorion sylfaenol y mae'n rhaid eu defnyddio ar ymarfer addysgu. Maent wedi'u categoreiddio'n fras o dan y themâu: Gofynion Cwricwlwm a Statudol; Ymarfer Proffesiynol - Rolau a Chyfrifoldebau; Materion sy'n effeithio ar ddysgu; Polisi Addysg yng Nghymru; Datblygiad Proffesiynol a Dysgu Gydol Oes; Amddiffyn a Diogelu Plant.
Uned 1 - Trosolwg o'r Cwricwlwm 1
Uned 2 - Trosolwg o'r Cwricwlwm 2
Uned 3 - Trosolwg Sgiliau 1
Uned 4 - Trosolwg o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu?
Uned 5 - Trosolwg o'r Cwricwlwm 3
Uned 6 - Trosolwg Sgiliau 2
Uned 7 - Trosolwg Sgiliau 3
Uned 8 - Effaith Tlodi
Uned 9 - Effaith ADY 1
Uned 10 - Cwrciwlwm Cymreig
Uned 11 - Diogelu ac Amddiffyn Plant 1
Uned 12 - Effaith ADY 2
Uned 13 - Effaith ADY 3
Uned 14 - Uned Iaith Gymraeg
Uned 15 - Diogelu ac Amddiffyn Plant 2
Uned 16 - Trefnu a Rheoli Ysgolion ac Atebolrwydd o fewn ysgolion
Uned 17 - Defnyddio a datblygu adnoddau addysgol]
Uned 18 - Hawliau Plant
Uned 19 - Ymchwil , Ymholiad a Moeseg mewn Addysg
Uned 20 - Rhaglen Drawsnewidiol ADY
Uned 21 - Iechyd a Lles ac ABCh
Uned 22 - Cymhwyso Ymchwiliad a Moeseg Ymchwil mewn Ymarfer
Uned 23 - Cyflog ac Amodau a Chyfrifoldebau ac Agweddau Deddfwriaethol a Phroffesiynol
Uned 24 - Egwyddorion Myfyrio'n Feirniadol ar Ymarfer sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth
Uned 25 - Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Uned 26 - Cyfrifoldebau Bugeiliol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd hon yn sgil a ddatblygir o fewn y modiwl hwn wrth i athrawon dan hyfforddiant fyfyrio ar eu harfer a'u datblygiad eu hunain.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn ystyried sut i fynd i'r afael â materion penodol yn eu cyd-destunau a'u harfer eu hunain, ac yn datblygu'r sgiliau i fynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.
Gwaith Tim Bydd gweithgareddau seminar yn cynnwys gwaith grŵp. Bydd ystyriaeth o gydweithredu a phartneriaethau yn cael ei gyflwyno a'i ystyried.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd hwn yn sgil graidd a ddatblygir o fewn y modiwl, gyda phwyslais clir ar hunan-fyfyrio, lle bydd disgwyl i'r athrawon dan hyfforddiant ystyried effaith ar eu harfer eu hunain.
Rhifedd Gellir ystyried adroddiadau ystadegol a gellir dadansoddi data i gefnogi dadleuon.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau o ran addysgu, gwerthuso a datblygu ymarfer proffesiynol trwy ymchwil a chydweithio.
Sgiliau ymchwil Bydd hyn yn cael ei ddatblygu trwy gydol y modiwl ond yn enwedig o ran yr ymchwil sy'n angenrheidiol yn yr asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd pob aseiniad wedi ei gyflwyno ar brosesydd geiriau a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau yn ogystal ag wrth gyflwyno eu blog.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7