Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CB15120
Teitl y Modiwl
Hanfodion Rheolaeth a Busnes
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr  60%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig 1  (2000 gair)  20%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig 2  (2000 gair)  20%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad 2 awr. (Rhaid i fyfyrwyr ail-wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl)  60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig  2,000 gair. (Rhaid i fyfyrwyr ail-wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl)  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  2,000 gair. (Rhaid i fyfyrwyr ail-wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dadansoddi cymwyseddau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheolaeth effeithiol ac yn deall cyfraniad meddylwyr rheoli allweddol

2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r berthynas rhwng rheolwyr a sefydliad

3. Nodi a thrafod dadleuon cyfoes mewn theori rheoli, megis prosesau cyfathrebu, a mathau o reolaeth

4. Egluro a gwerthuso rhyngweithio amgylcheddau mewnol ac allanol

5. Nodi a thrafod polisïau priodol i lunio'r amgylchedd mewnol o sefydliad busnes yn unol â'r elfennau alldarddol o'r amgylchedd busnes

6. Dadansoddi a gwerthuso amgylchedd busnes gan ddefnyddio technegau megis PESTEL

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau damcaniaethol a goblygiadau ymarferol sy'n ymwneud â phobl mewn sefydliadau a'r berthynas rhwng rheolwyr a threfniadaeth. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y grymoedd mewnol ac allanol a all effeithio ar y ddeinameg gweithredu mewn amgylchedd busnes cyfoes. Bydd archwiliad o ddatblygiad hanesyddol y cysyniad ac arfer rheoli yn cyflwyno'r cysyniadau o rym, rheolaeth, atebolrwydd a chymhelliant a'u goblygiadau ymarferol. Trwy gydol y modiwl, bydd cysyniadau damcaniaethol yn cael eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn gyda phwyslais arbennig ar rôl a gweithredoedd rheolwyr cyfoes. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys darlithoedd ar feddylwyr rheoli allweddol a modelau rheoli.

Cynnwys

• Yr Amgylchedd Busnes: Dulliau Dadansoddi
• Yr Amgylchedd Economaidd: Globaleiddio a Rhyngwladoli
• Yr Amgylchedd Economaidd: Yr Economi, rhanbartholi, amlochroldeb a Masnach Rhyngwladol
• Yr Amgylchedd Technolegol: Arloesi, IPR a Throsglwyddo Gwybodaeth
• Yr Amgylchedd gwleidyddol: cenedlaethol a chyd-destun byd-eang
• Yr Amgylchedd cymdeithasol-ddiwylliannol: diwylliant a newid
• Busnes Moesegol: Yr Amgylchedd, Moeseg Busnes a CSR
• Dynameg byd-eang o’r amgylchedd busnes: materion cyfredol o globaleiddio
• Rôl y Rheolwr
• Theori Rheoli a Rheolaeth / arweinyddiaeth
• Damcaniaethau cymhelliant a gwneud penderfyniadau
• Cyfathrebu, gwrthdaro a thrafod
• Rheolaeth: rhyngwladol yn erbyn entreprenwriaeth
• Newid, strategaeth a chynllunio
• Greddf, arloesedd a chreadigrwydd
• Rheolaeth gweithrediadau a rheoli

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygu sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys sgiliau trafod a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd drwy ddarllen ac ysgrifennu am reolaeth a busnes.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gall myfyrwyr ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl yma i wella eu cyfleoedd o ran gyrfa. Byddant hefyd yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o drefnu a rheoli ffynonellau gwybodaeth.
Datrys Problemau Adnabod problemau. Nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Datblygu dulliau meddwl yn greadigol i ddatrys problemau. Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posib. Llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, yn cyfrannu'n effeithiol ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a chyflwyniad grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dyfeisio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu realistig ac yn monitro perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser.
Rhifedd Dadansoddi adroddiadau cwmnïau a data rhifiadol arall.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o drefnu a rheoli ffynonellau o wybodaeth a chadw i fyny gyda'r datblygiadau diweddaraf mewn rheolaeth a busnes.
Sgiliau ymchwil Cynnal ymchwil i syniadau cyfredol o fewn y meysydd rheolaeth a busnes. Adnabod deunyddiau o ffynonellau perthnasol ac o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin. Cyflwyno gwybodaeth a chyflwyno data. Defnyddio e-bost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4