Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CT11120
Module Title
Cyfraith Camwedd
Academic Year
2020/2021
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Mutually Exclusive
Mutually Exclusive
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 1.5 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig  (1500 gair)  50%
Supplementary Exam 1.5 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig  (1500 gair)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos dealltwriaeth fanwl o egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd, yn ogystal a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.

2. Nodi’n gywir yr elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.

3. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu dangos eu bod yn datblygu sgiliau trwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.

4. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o gwmpas cyfraith camwedd, gan nodi problemau cyfredol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.

5. Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr a chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a disgrifio cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.

6. Llunio dadleuon perthnasol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau sylfaenol mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dangos eu bod yn datblygu sgiliau i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol mewn modd digonol.​

Brief description

Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.

Content

Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, mae (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac maent wedi’u gosod ar lefel uwch.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.

Cynnwys
  • Cyflwyniad i gyfraith camwedd
  • Camweddau bwriadol yn erbyn y person
  • Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
  • Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
  • Amddiffyniadau i esgeuluster
  • Niwsans
  • Rylands v Fletcher
  • Difenwad
  • Diogelu preifatrwydd
  • Atebolrwydd am anifeiliaid

Module Skills

Skills Type Skills details
Communication Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau.
Improving own Learning and Performance Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Information Technology Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu.
Personal Development and Career planning Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol.
Problem solving Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn eu harholiad.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad.
Subject Specific Skills Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith.
Team work Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grwp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth.

Notes

This module is at CQFW Level 4