Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CT13120
Teitl y Modiwl
Troseddeg a Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  (1,500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Aseiniad 2  (1,500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1  Ailadrodd yr elfen a fethwyd.  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 2  Ailadrodd yr elfen a fethwyd.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall sut i ysgrifennu a chyfeirio mewn ffordd academaidd gadarn.

Deall hanfodion datblygu a dylunio ymchwil.

Cynnal ceyfweliad ansoddol.

Llunio a defnyddio holiadur arolwg sylfaenol.

Meddu ar ddealltwraieth ddatblygol fanteision a chyfyngiadau dyluniadau dulliau meintiol, ansoddol chymysg.

Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol o sut i asesu astudiaethau ymchwil troseddegol empirig yn feirniadol.

Disgrifiad cryno

Mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, datblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweld ac arolygu un i un.

Cynnwys

Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:

Ysgrifennu a chyfeirio academaidd Dyluniad ymchwil
Moeseg ymchwil
Dyluniad holiadur
Cyfweld ansoddol
Methodelegau dadansoddi ansoddol sylfaenol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu sut i ysgrifennu i safon academaidd uchel, a sut i gymhwyso cyfeiriadau Harvard i'w gwaith, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu cyhoeddiadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn wedi'i wreiddio'n fawr yn y byd go iawn, a sut y gellir cynnal ymchwil gyda phobl go iawn. Bydd y ddau aseiniad yn gofyn iddynt redeg gweithgaredd ymchwil gyda rhywun y tu allan i'r cwrs, a myfyrio ar ba mor dda y gweithiodd yr offer gyda phobl go iawn mewn cymdeithas.
Datrys Problemau Mae ethos cyfan y modiwl yn troi o gwmpas datrys problemau. Dyma hanfod ymchwil gwyddorau cymdeithasol ac felly bydd y modiwl yn ymwneud yn helaeth ag annog a meithrin y sgil hon.
Gwaith Tim Bydd y ddau aseiniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr weithio gydag un arall i gynhyrchu a) amserlen gyfweld a b) holiadur arolwg (er y bydd yr aseiniadau'n cael eu hysgrifennu'n unigol). Bydd y seminarau a'r gweithdai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd drwyddi draw mewn ffordd ymarferol iawn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dyluniadau eu hunain o gyfweliad ac arolwg, sy'n gofyn am lefel dda o fyfyrio personol ar eu datblygiad a'u dysgu eu hunain.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil, pe byddent yn penderfynu ymgymryd a thraethawd hir empirig yn eu trydedd flwyddyn.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ddylunio a chynnal eu cyfweliad a'u harolwg eu hunain, ac yna dadansoddi'n feirniadol pa mor dda y gweithiodd eu dyluniad mewn gwirionedd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu deunyddiau ar Blackboard, ond hefyd i ddefnyddio rhaglen arolwg ar-lein i gwblhau eu hail aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4