Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
| Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Datganiad o ddadl (2500 gair) | 50% |
| Semester Exam | 2 Hours | 50% |
| Supplementary Assessment | Datganiad o ddadl (2500 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl | 50% |
| Supplementary Exam | 2 Hours Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Egluro egwyddorion cyfreithiol Cyfraith Tir
2. Dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol yn ymwneud â chyfraith tir a chymhwyso egwyddorion cyfraith tir i’r sefyllfaoedd hynny.
3. Gwneud ymchwil annibynnol ar agweddau o’r gyfraith a mynd i’r afael â thrafodaethau a gwahanol safbwyntiau ynglŷn â’r gyfraith bresennol, y problemau posibl a’r diwygiadau posibl.
4. Gallu dadlau sut i gymhwyso’r gyfraith i bartïon mewn anghydfod – gan gyflwyno achos y naill a’r llall a chloriannu pa un yw’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol.
5. Gallu cyflwyno canlyniadau yn ysgrifenedig yn effeithiol ar lefel academaidd gan ddefnyddio’r derminoleg berthnasol a chyfeirnodi deunydd yn y modd priodol.
6. Deall egwyddorion sefydledig cyfraith tir, a’r modd y mae’r egwyddorion hynny wedi datblygu.
Brief description
Mae hwn yn bwnc eithrio SRA a BSB. Ei nod yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion hanfodol perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a hawliau pobl eraill dros dir, a dulliau gorfodi’r hawliau hynny, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydleswr a’r morgeisiai, y cyfamodai a pherchennog y rhandir trech at ddibenion caniatáu hawddfraint.
Content
2. Pa elfennau sydd i gyfraith tir?
3. Perchnogaeth a chydberchnogaeth tir
4. Prydlesi
5. Morgeisi
6. Hawddfreintiau
7. Cyfamodau
Module Skills
| Skills Type | Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Amherthnasol. |
| Communication | Gwaith paratoi a thrafodaethau yn y seminarau. |
| Improving own Learning and Performance | Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp. Asesiadau ffurfiannol trwy sesiynau ymarfer yn y dosbarth. |
| Information Technology | Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
| Personal Development and Career planning | Bydd yr hyn a ddysgir ar y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith. |
| Problem solving | Paratoi ar gyfer cwestiynau datrys problemau yn y seminar, a’u trafod. |
| Research skills | Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
| Subject Specific Skills | Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol pwrpasol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. |
| Team work | Gwaith seminar: paratoi a thrafod mewn grwpiau. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
