Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CT25120
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil Troseddeg 2
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad Meintiol  (2,000 gair)  50%
Asesiad Semester Ymarfer Ansoddol  (3,000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Meintiol  (2,000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Ymarfer Ansoddol  (3,000 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion methodolegol sylfaenol sydd wrth wraidd ymchwil gwerthuso.

2. Gwerthfawrogi rhai o'r problemau technegol, ymarferol a moesol y deuir ar eu traws wrth werthuso effaith ymyriadau cyfiawnder troseddol.

3. Cynllunio astudiaeth werthuso syml.

4. Gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng strategaethau ymchwil gwerthuso cyfunol a ffurfiannol.

5. Defnyddio damcaniaethau troseddegol craidd a rhesymu ar gyfer testunau a pholisïau cymhwysol mewn meysydd fel rheoli ac atal troseddau.

6. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth o gryfderau a chyfyngiadau dulliau dadansoddol ansoddol a meintiol mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil.

7. Cyflwyno data ystadegol mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau.

8. Tynnu casgliadau priodol o ddata ystadegol a phennu'r arwyddocad ystadegol.

9. Canfod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn arfer moesegol da wrth gynnal ymchwil empiraidd ym maes troseddeg a nodi'r risgiau personol y gellir dod ar eu traws wrth wneud gwaith maes mewn sefyllfaoedd ymchwil penodol.

10. Asesu'n feirniadol adroddiadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.



Dadansoddi data empiraidd

Disgrifiad cryno

Darparodd y modiwl craidd blwyddyn gyntaf CR12130 (Criminology Research Skills
1) wybodaeth am egwyddorion sylfaenol dulliau a methodolegau ymchwil ansoddol a meintiol mewn ymchwil troseddegol.

Mae’r modiwl presennol yn adeiladu ar y sylfaen hwn trwy alluogi myfyrwyr i werthfawrogi sut y gellir cymhwyso’r dulliau ymchwil a’r technegau hyn wrth gloriannu mentrau polisi a rhaglenni ymyrryd yn ymwneud a throseddu. Mae’n cyflwyno’r myfyrwyr i syniadau a thechnegau mwy datblygedig mewn dadansoddi data ansoddol a meintiol.

Mae'r modiwl yn trafod egwyddorion ymchwil gwerthuso ac yn dangos sut y defnyddir dulliau a methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol wrth astudio ymyriadau a gynlluniwyd a rhaglenni triniaeth yn y maes cyfiawnder troseddol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r myfyrwyr wneud eu gwaith ymchwil empiraidd eu hunain a dadansoddi'n feirniadol astudiaethau sy'n bod eisoes.

Cynnwys

​​Cyflwyniad i werthuso rhaglenni a defnyddio modelau rhesymeg.

Cynlluniau ymchwil arbrofol a lled-arbrofol yng nghyd-destun polisi.

Dulliau ansoddol wrth werthuso arferion a pholisïau cyfiawnder troseddol.

Casglu data ansoddol: arsylwi gan gyfranogwyr ac eraill nad ydynt yn gyfranogwyr, grwpiau ffocws a thechnegau cyfweld.

Profion seicolegol sylfaenol.

Dulliau meintiol: ystadegau casgliadol, arwyddocâd ystadegol a Chi-sgwar.

Cyflwyniad i feddalwedd meintiol.

Cloriannu rhaglenni lleihau troseddu, a mentrau atal troseddu.

Egwyddorion ac arferion moesol mewn gwaith ymchwil troseddegol​​

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu hasesu yn yr asesiad. Fodd bynnag, ystyrir sgiliau cyfathrebu llafar yn ystod y seminarau a’r dosbarthiadau ymarferol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Modiwl sy’n seiliedig ar sgiliau yw hwn a fydd o gymorth mewn gwaith neu gyflogaeth ol-raddedig yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn asesu gwahanol fathau o ddata ac yn ystyried pa ddull dadansoddi sydd fwyaf addas.
Gwaith Tim Yn ystod y seminarau bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer rhai gweithgareddau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn cael sesiynau lle byddant yn ymarfer eu sgiliau ymchwil newydd.
Rhifedd Mae natur y dadansoddi data yn gofyn am ddefnyddio gwybodaeth rifyddol.
Sgiliau pwnc penodol ​​Mae’r ymchwil wedi’i anelu at brofi theori a data gwyddor gymdeithasol a throseddegol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i’r myfyrwyr wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a chymhwyso’r hyn a ddysgir i’w asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn defnyddio nifer o wahanol raglenni meddalwedd a fydd o gymorth iddynt o safbwynt eu dysgu a’u hasesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5