Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY36000
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cynllun Ymchwil Manwl  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Estynedig  80%
Asesiad Semester Cynllun Ymchwil Manwl  Cynllun ymchwil manwl a llyfryddiaeth lawn (erbyn diwedd Semester 1)  20%
Asesiad Semester Traethawd Estynedig  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

cynllunio, cydlynu a chyflawni prosiect ymchwil gwreiddiol.

datblygu eu gallu i reoli amser yn effeithiol ac i weithio o fewn terfynau amser gosodedig.

arddangos dealltwriaeth feirniadol o’r ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol.

cynhyrchu darn o waith gorffenedig y mae ei dull a’i ddiwyg yn cydymfurfio â safonau academaidd addas.

dangos hunangymhelliad a’r gallu i astudio’n annibynnol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol ar fodiwlau’r Adran. Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol a hefyd yn cynnig canllawiau ar gyfer paratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig o waith yn y Gymraeg ar bwnc perthnasol i’w cynllun gradd.

Cynnwys

Semester 1
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda chydlynydd y modiwl er mwyn pennu goruchwylwyr addas (sesiwn 2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy 1: bydd myfyrwyr yn cyflwyno a thrafod eu syniadau (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy 2: bydd myfyrwyr yn cyflwyno a thrafod eu syniadau (gweithdy 2 awr)

Semester 2:
Cyfarfodydd unigol gyda’r cyfarwyddwr yn ôl y galw (hyd at 5 awr)

Disgrifiad cryno

Y mae’r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr fynd i’r afael â phrosiect ymchwil annibynnol. Bydd y modiwl yn arfogi myfyrwyr â sgiliau ymchwil ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer paratoi, ymchwilio, a chynllunio traethawd estynedig 10,000 o eiriau. Bydd goruchwyliwr academaidd cymwys yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddiffinio eu pwnc a llunio’r traethawd gorffenedig.
Yn ystod Semester 1 bydd cyfres o ddarlithiau a gweithdai yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil. Bydd myfyrwyr yn diffinio eu pwnc mewn ymgynghoriad â goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun manwl o’r traethawd estynedig arfaethedig. Cynigir yr hyfforddiant canlynol: diffinio pwnc y traethawd, cynllunio ymchwil ac ysgrifennu traethawd estynedig. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl o’r traethawd arfaethedig ar ddiwedd Semester 1, ynghyd â llyfryddiaeth (1,500 o eiriau).
Yn ystod Semester 2 bydd myfyrwyr yn cydweithio â’u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol ac yn derbyn cefnogaeth academaidd ac ymarferol i gyflawni’r ymchwil ac i lunio’r traethawd gorffenedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy lunio darn o waith estynedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil, y ffynonellau a’r heriau yn y gweithdai (gwaith grwp) ac yn y tiwtorialau (gwaith unigol).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Trafodir safbwyntiau a nodweddion personol wrth drafod y pwnc a datblygiad y traethawd gyda’r goruchwyliwr yn ystod y modiwl. Bydd y sgiliau generig a feithrinir yn ystod y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i’r gweithle. E.e. cynllunio a chyflawni darn o waith estynedig sy’n gynnyrch gwaith annibynnol.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau trwy trafod cwestiynau ymchwil, methodoleg addas, a chynllun ymchwil. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymateb i heriau a brofir yn ystod y broses o ymchwilio a dadansoddi.
Gwaith Tim amherthnasol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd disgwyl i fyfyrwyr fedru rheoli eu hamser yn effeithiol ac adrodd yn ôl ar eu cynnydd yn y tiwtorialau gyda goruchwylwyr. Bydd y tiwtorialau yn gyfle hefyd i fod yn hunanfeirniadol/hunanfyfyriol.
Rhifedd Gellid datblygu sgiliau rhifedd trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol, os yw’n addas i’r prosiect.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau myfyrwyr i adnabod a thrafod ieithwedd a chyd-destun hanesyddol a beirniadol eu pwnc; bydd gofyn i fyfyrwyr hefyd ffangos ymwybyddiaeth o gonfensiynau cyhoeddi’r ddisgyblaeth.
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgiliau hyn trwy gasglu a dadansoddi deunydd sy’n addas i gwestiynau ymchwil y myfyrwyr.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol, e.e. defnyddio ffynonellau ar-lein, adnoddau digidol, PowerPoint, prosesu geiriau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6