Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM6310
Teitl y Modiwl
Hanfodion Isdeitlo
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad 1500 gair  Adroddiad sy’n gwerthuso’r damcaniaethau a gyflwynwyd yn y modwl.  30%
Asesiad Semester Asesiad Isdeitlo  Isdeitlo dwy raglen wrthgyferbyniol (5 munud yr un) . 1 rhaglen Gymraeg. 1 rhaglen Saesneg.  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. dadansoddi swyddogaeth isdeitlydd a medru gwerthfawrogi a dehongli canllawiau isdeitlo gwahanol sianeli a gofynion OFCOM a gallu cymhwyso’r canllawiau hyn;

2. cyfieithu, defnyddio, dehongli a dadansoddi safonau ieithyddol, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol, ynghyd ag agweddau technegol yn hyderus i safon uchel, gan gynnwys amseru a fformadu isdeitlau;

3. creu ac amseru isdeitlau ar gyfer amrywiaeth o raglenni teledu sydd wedi’u recordio ymlaen llaw yn ôl y gynulleidfa darged ac i weithio ac ymchwilio’n annibynnol o dan bwysau amser ôl-gynhyrchu:

4. gwerthuso’n feirniadol theorïau gwahanol academyddion ac ymarferwyr yn y maes.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn darparu hyfforddiant mewn egwyddorion isdeitlo, ynghyd â’r sgiliau ieithyddol a thechnegol sy’n angenrheidiol ar gyfer isdeitlo i safon darlledu ac i osod amsernodau perthnasol.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn hyfforddi myfyrwyr yn egwyddorion isdeitlo. Ceir cyfle i ddefnyddio’r offer Starfish Technology: Isis.

Cyflwynir hyfforddiant yn yr egwyddorion a’r sgiliau ieithyddol a thechnegol sy’n angenrheidiol ar gyfer isdeitlo i safon darlledu ac i osod amsernodau perthnasol.

Bydd y modiwl hefyd yn ymdrin â gosod lliwiau, dehongli, cywasgu, effeithiau sain, cyfieithu, amseru, fformadu, ayyb. Hyfforddir myfyrwyr i isdeitlo rhaglenni sydd wedi’u recordio ymlaen llaw, gan ganolbwyntio ar yr agweddau ieithyddol a thechnegol angenrheidiol ar gyfer isdeitlo rhyngieithol a mewnieithol.

Bydd elfen ymarferol y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y myfyrwyr wrth iddynt roi cynnig ar ymarfer y grefft o isdeitlo o’r newydd, dan gyfarwyddyd, mewn gweithdai bach. Bydd y myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r amrywiol gynulleidfaoedd y bwriedir yr isdeitlau ar eu cyfer, e.e. y byddar a’r trwm eu clyw, plant, dysgwyr iaith ac ati. Ceir cyfle i drafod gwaith unigolion er mwyn gwerthuso isdeitlau a’u goblygiadau ac i ddysgu o sylwadau’r tiwtor a myfyrwyr eraill.

Bydd y modiwl yn trafod agweddau megis addasu diwylliannol, cyfieithu ar y sgrin, damcaniaethau cyfathrebu ac amlieithrwydd, ynghyd â gwerthuso agweddau damcaniaethol o’r maes.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cynhyrchu isdeitlau sy'n arddangos triniaeth effeithiol o sain, delweddau a’r gair ysgrifenedig. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. Ysgrifenedig – cyflwyno gwybodaeth am sefyllfa isdeitlo ar ffurf adroddiad. Gwneir trwy’r adroddiad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. Gwneir trwy’r adroddiad ysgrifenedig.
Datrys Problemau Meddwl drostynt eu hunain a gweithio'n annibynnol i gywain gwybodaeth angenrheidiol er mwyn creu isdeitlau effeithiol. Gwneud penderfyniadau mewn amryw sefyllfaoedd heriol, e.e. nid oes amser i feddwl a thrafod unrhyw broblemau tra’n isdeitlo o dan bwysau amser. Asesir hyn drwy’r prawf a thrwy osod rhaglenni heriol i’w hisdeitlo mewn amgylchiadau proffesiynol.
Gwaith Tim Gweithio'n gynhyrchiol mewn tîm, gan ddangos y gallu i wrando a chyfrannu'n effeithiol ac ar adegau i arwain. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos meistrolaeth yn y maes isdeitlo. Gweithio mewn modd hyblyg, creadigol ac annibynnol, gan ddangos hunanddisgyblaeth a hunan gyfeiriad Gwneir trwy’r prawf isdeitlo.
Rhifedd Rhaid defnyddio gwybodaeth rifyddol i amseru isdeitlau. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo.
Sgiliau pwnc penodol Mae’n fodiwl arbenigol ac ymarferol sy’n datblygu dealltwriaeth o brosesau cynhyrchu ac arferion proffesiynol o fewn y cyfryngau, diwydiannau diwylliannol a chyfathrebu. Gweithio gan arddangos hyblygrwydd a chreadigrwydd. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo.
Sgiliau ymchwil Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. Llunio adroddiad beirniadol. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. Gwneir trwy’r adroddiad ysgrifenedig
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio offer isdeitlo a gwefannau safonol a pherthnasol. Gwneir hyn trwy’r prawf isdeitlo.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7