Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
LL31100
Teitl y Modiwl
Llydaweg: cyflwyniad
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Pecyn o ymarferion wythnosol (8 eitem)  30%
Asesiad Semester Arholiad llafar (10 munud)  10%
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll Pecyn o ymarferion wythnosol (8 eitem)  30%
Asesiad Ailsefyll Arholiad llafar (10 munud)  10%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio'r amser gorffennol agos/perffaith a'r amser gorffennol pell/gorberffaith a hefyd rai ffurfiau berfol amser presennol.

2. Dylai fedru defnyddio'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, a medru ei darllen ar lefel elfennol.

3. Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio amser presennol parhaol y ferf bezon ac amser presennol arferiadol amryw ferfau eraill, rheolaidd ac afreolaidd.

4. Dylai fedru'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig a medru mynd i'r afael a^ thestunau elfennol yn yr iaith.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir teithi sylfaenol Llydaweg Modern. Cyflwyniad i Lydaweg cyfoes. Amcan y cwrs yw galluogi'r myfyriwr i gynnal sgwrs elfennol yn yr iaith ac i ddechrau ei hysgrifennu a'i darllen, ynghyd â a chyflwyno gwybodaeth gefndirol am Lydaw a'i llenyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages).

Cynnwys

1. amser gorffennol agos/perffaith

2. amser gorffennol pell/gorberffaith

3. ffurfiau berfol amser presennol.

4. amser presennol parhaol y ferf bezon

5. amser presennol arferiadol amryw ferfau rheolaidd ac afreolaidd.

Seilir yr arholiadau ar yr hyn sydd yng ngwersi Kentelioù Brezhoneg Diazez

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif 4.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6