Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
RG20520
Teitl y Modiwl
Sgiliau Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad gwerthuso  (1500 gair.)  30%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  (20 munud.)  10%
Asesiad Semester Cynnig prosiect  (3000 gair.)  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad gweithle penodol.

2. Gwerthuso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd yn ystod cyfnod o brofiad gwaith.

3. Dewis a chymhwyso dulliau rheoli priodol i brosiect cefn gwlad.

4. Defnyddio technoleg gwybodaeth gan gynnwys Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i helpu i gofnodi ac arddangos data a gwneud penderfyniadau rheoli priodol.

5. Cynhyrchu negeseuon gan ddefnyddio cyfryngau priodol ar gyfer gwahanol amcanion a chynulleidfaoedd.

Disgrifiad cryno

Mae rheoli safleoedd a phrosiectau cefn gwlad yn gymhleth ac mae’n gofyn am amrywiaeth eang o sgiliau. Mae’r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar y profiadau a gawsant yn ystod cyfnod o gyflogaeth berthnasol yng nghefn gwlad ac mae’n adeiladu ar hyn drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol hanfodol mewn meysydd megis rheoli adnoddau, cynllunio prosiectau, a rheoli safleoedd a gweithluoedd. Bydd sgiliau TG a enillwyd mewn modiwlau blaenorol yn cael eu datblygu mewn perthynas â chymwysiadau ymarferol yn y gweithle, a bydd y defnydd o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), sy’n hanfodol i lawer agwedd ar reoli cefn gwlad, yn cael ei gyflwyno.

Cynnwys

Gwerthuso datblygiad eu gyrfa bersonol yn feirniadol.
• Cynigion prosiect a chynllunio.
• Rheoli safleoedd cefn gwlad a staff.
• Defnyddio technoleg gwybodaeth yn y gweithle cefn gwlad
• Cyfathrebu effeithiol ym maes rheoli cefn gwlad.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gwneir hyn trwy’r aseiniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Thema ganolog i’r modiwl, a asesir trwy’r aseiniadau.
Datrys Problemau Gwneir hyn trwy’r gweithdai a’r aseiniad astudiaeth achos.
Gwaith Tim Bydd hyn yn cael ei ystyried yn yr adroddiad gwerthuso, ond ni fydd yn cael ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwneir hyn trwy’r aseiniadau.
Rhifedd Gwneir hyn trwy’r gweithdai a’r aseiniad astudiaeth achos.
Sgiliau pwnc penodol Gwneir hyn trwy’r aseiniadau.
Sgiliau ymchwil Gwneir hyn trwy’r aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth, yn enwedig Sustemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn nodwedd o’r modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5