Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
| Assessment Type | Assessment length / details | Proportion | 
|---|---|---|
| Semester Assessment | Portffolio myfyriol a gwerthusol (2,000 gair) | 40% | 
| Semester Exam | Cyflwyniad (30 munud) | 60% | 
| Supplementary Assessment | Portffolio myfyriol a gwerthusol (2,000 gair) | 40% | 
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad (30 munud) | 60% | 
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
 
 1. Dangos dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion allweddol cyfathrebu mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. 
 
 
 
 
 2. Datblygu a myfyrio ynghylch yr ystod o sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. 
 
 
 
3. Deall sut i arwain gwaith i ddatblygu prosesau cyfathrebu effeithiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Brief description
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen o fewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys addasu dulliau cyfathrebu i wahanol bobl a sefyllfaoedd, darllen iaith y corff, defnyddio iaith gadarnhaol, gwrando effeithiol a chyfrinachedd.
Content
1. Beth yw cyfathrebu?
2. Gwrando effeithiol
3. Cyfathrebu di-eiriau
4. Cyfathrebu ysgrifenedig
5. Systemau cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar bobl/plant
6. Addasu eich cyfathrebu eich hun
7. Cloriannu systemau cyfathrebu
8. Cofnodi ac adrodd
9. Arwain systemau cyfathrebu effeithiol
10. Rhoi systemau cyfathrebu effeithiol ar waith
Module Skills
| Skills Type | Skills details | 
|---|---|
| Application of Number | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. | 
| Communication | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol trwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar trwy gydol y gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig trwy gydol yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd y myfyrwyr yn cloriannu ac yn myfyrio ar eu sgiliau eu hunain. | 
| Improving own Learning and Performance | Adborth ar yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol. | 
| Information Technology | Bydd aseiniadau ysgrifenedig wedi’u geirbrosesu a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud ymchwil | 
| Personal Development and Career planning | Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau, a’u cloriannu | 
| Problem solving | Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol | 
| Research skills | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif asesiadau a rhai o’r tasgau seminar. | 
| Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol | 
| Team work | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a threfniadau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl | 
Notes
This module is at CQFW Level 6
