Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CT30520
Teitl y Modiwl
Cyfraith Troseddol
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2,500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Traethawd  (2,500 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:


​1. Adnabod ac esbonio’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i gyfraith trosedd, a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y cânt eu cymhwyso i droseddau ac amddiffyniadau penodol.


2. Adnabod a dadansoddi’r elfennau sy’n sail i atebolrwydd troseddol, sef yr elfen ymddygiad a’r elfen feddyliol, a’r eithriadau i’r rhain.


3. Dangos dealltwriaeth o bob elfen berthnasol sy’n rhan o droseddau ac amddiffyniadau o bwys – mewn deddfwriaeth ac yn y gyfraith gyffredin – a’u cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn datrys problemau.


4. Gwerthuso cwmpas cyfraith trosedd, ei phroblemau ar hyn o bryd, a’r opsiynau ar gyfer ei diwygio sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn y Gyfraith yn enwedig.


5. Llunio dadleuon darbwyllol a chryf ar sail y gyfraith a’r dystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau darllen, deall a chymhwyso’r testunau cyfreithiol perthnasol (boed hwy’n achosion neu’n ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol, a dehongli a dadansoddi’n feirniadol reolau a thestunau cyfreithiol sy’n ymwneud â chyfraith trosedd.

Cynnwys


​Mae’r modiwl yn amlinellu’r egwyddorion cyffredinol sy’n ymwneud â’r mens rea (yr elfen feddyliol) a’r actus reus (yr elfen ymddygiad) o droseddau, cyn symud ymlaen i edrych ar droseddau o sylwedd llofruddiaeth; dynladdiad; amddiffyniadau rhannol; troseddau rhywiol; cymryd rhan mewn troseddau; troseddau nad ydynt yn rhai angheuol yn erbyn y person; troseddau yn erbyn eiddo; troseddau cychwynnol: amddiffyniadau o analluogrwydd a chyflyrau meddyliol ac amddiffyniadau cyffredinol.

Disgrifiad cryno


Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddeall ac archwilio’n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y dadleuon a’r pynciau llosg sy’n gysylltiedig ag astudio cyfraith trosedd. Bydd yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am yr egwyddorion cyfraith trosedd y mae’r rhan fwyaf o droseddau yn seiliedig arnynt, a’r meini prawf allweddol ar gyfer adnabod y troseddau mwyaf difrifol, megis lladdiadau a throseddau rhywiol. Byddant hefyd yn cael gwybod am yr achosion allweddol a’r ddeddfwriaeth sy’n llywio cyfraith trosedd. Fel modiwl craidd at ddibenion eithriadau proffesiynol, bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i’r egwyddorion sylfaenol allweddol sy’n sail i gyfraith trosedd ar gam cynnar yn eu hastudiaethau, gan bwysleisio’r rhan y mae’r egwyddorion hyn yn ei chwarae mewn bywyd pob dydd. Yna bydd y modiwl yn adeiladu ar sail yr egwyddorion hyn trwy ganolbwyntio ar y troseddau mwyaf difrifol. Bydd yn creu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn cael eu hysgogi i ddysgu mwy yn sgil chwilfrydedd. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i adolygu’r hyn sy’n hysbys, canfod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen i ddatrys materion o sylwedd mewn cyfraith trosedd, a pharhau â’r chwilio i ganfod ac archwilio’n feirniadol atebion newydd i hen broblemau. Ymhlith yr amcanion dysgu ar gyfer myfyrwyr bydd: defnyddio gwybodaeth a ddaw o ddeddfwriaeth neu gan awdurdod barnwrol yn feirniadol, a gallu creu, cyflwyno a gwrthbrofi dadleuon o fewn y fframwaith athrawiaethol presennol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol.
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau ac yn eu harholiad.
Gwaith Tim Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statud a chyfraith achosion Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6