Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY13020
Teitl y Modiwl
Cymraeg Llafar
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Co-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dyddiadur llafar  , gan defnyddio offer Panopto ar y BwrddDu neu ar ffurf ffeiliau MP3. 4 recordiad (tua dwy funud yr un) yn crynhoi eich profiad ar ddiwedd bob wythnos o’r cwrs llafar (10 munud).  30%
Asesiad Ailsefyll Arholiad llafar / oral exam  (20 munud)  70%
Asesiad Semester Arholiad llafar / oral exam  (20 munud)  70%
Asesiad Semester Dyddiadur llafar  , gan defnyddio offer Panopto ar y BwrddDu neu ar ffurf ffeiliau MP3. 4 recordiad (tua dwy funud yr un) yn crynhoi eich profiad ar ddiwedd bob wythnos o’r cwrs llafar (10 munud).  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Siarad Cymraeg ar bynciau amrywiol yn hyderus ar lefel Sylfaen.

2. Cyrraedd safon Sylfaen o safbwynt geirfa a gramadeg y Gymraeg.

3. Dangos dealltwriaeth o gyweiriau llafar y Gymraeg a medru defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar ar lefel Sylfaen.

Disgrifiad cryno

Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr sy’n dysgu’r iaith o’r newydd. Mae’r cwrs dwys yn caniatáu i fyfyrwyr bontio Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ar gynlluniau Q500 a Q522. Mae’r sesiynau ieithyddol a diwylliannol yn dyfnhau profiad myfyrwyr o’r iaith (geirfa, cystrawen, cywair) ac oherwydd natur ymarferol y sesiynau, yn eu cefnogi i fod yn siaradwyr hyderus. Un o fanteision ychwanegol y cwrs yw hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel iaith gymdeithasol, gan fod sesiynau cymdeithasol yn rhan annotod o’i strwythur hefyd.

Cynnwys

Cyhoeddir rhaglen flynyddol Cymraeg i Oedolion: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/courses/summer-course/. Bydd myfyrwyr fel arfer yn dilyn y llwybr Sylfaen.
[Nodyn: nid yw rhaglen 2020 ar gael ar hyn o bryd]

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae galluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n hyderus ac yn briodol ar lafar wrth wraidd y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â geirfa, cystrawen a chywair llafar ac yn meithrin hyder i gyfathrebu’n hyderus ar lafar yn y Gymraeg.
Datrys Problemau Oherwydd natur ymarferol y modiwl, bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirda, cystrawen, cywair a mynegiant.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn sesiynau ymarferol y modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ac yn ymateb i adborth gan staff dysgu a chymheiriaid yn sesiynau ymarferol y modiwl hwn.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Dysgir am gyweiriau llafar y Gymraeg ac atgyfnerthir gallu’r myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y cywair priodol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell a’r BwrddDU wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio’r BwrddDU wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn, ynghyd ag ymchwilio arlein wrth baratoi ar gyfer sesiynau ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4