Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY20120
Teitl y Modiwl
Gloywi Iaith
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  40%
Asesiad Ailsefyll Prawf Llafar  15%
Asesiad Ailsefyll Tasg Ysgrifenedig Estynedig  45%
Asesiad Semester Prawf llafar  15%
Asesiad Semester Ymarferion Wythnosol - cyfanswm o 20  45%

Canlyniadau Dysgu

O fanteisio i'r eithaf ar y modiwl hwn byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o deithi'r Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n raenus ac yn gywir yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd myfyrwyr a fydd yn rhagori yn medru arddangos meistrolaeth o nodweddion megis orgraff yr iaith, ffurfiau ac amserau berfau, cenedl enwau, y treigladau, llunio cymalau ac adnabod gwahanol fathau o frawddegau.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.

Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:

Orgraff

Cenedl Enwau

Treigladau

Cyweiriau’r iaith

Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith

Cystrawennau

Cymalau

Priod-ddulliau

Diarhebion Cymraeg

Cyfieithu

Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith.
Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein
Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth.
Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol.
Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol.
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro
Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5