Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY22420
Teitl y Modiwl
Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Tasgau cyfieithu  Hyd at bedair tasg gyfieithu 1500 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Prawf Cyfieithu  Prawf cyfieithu yn y dosbarth ar gyfrifiadur 1 Awr  30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  Traethawd 2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester 1 Awr   Prawf Cyfieithu  Prawf cyfieithu yn y dosbarth ar gyfrifiadur 1 Awr  30%
Asesiad Semester Traethawd  Traethawd 2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Tasgau cyfieithu  Chwe thasg gyfieithu (y pedair tasg orau i'w hasesu) 1500 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyfieithu testunau proffesiynol eu natur i’r Gymraeg.

Gwneud defnydd o adnoddau iaith ar-lein a rhaglenni cyfieithu peirianyddol yn effeithiol.

Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg wrth gyfieithu.

Dadansoddi heriau’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.

Dangos dealltwriaeth o hanfodion gwahanol fathau ar gyfieithu gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn dysgu sgiliau cyfieithu proffesiynol ac yn rhoi cyflwyniad i heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ar draws Cymru, mae natur y sector cyfieithu yn esblygu. Bydd darlithoedd y modiwl yn trafod datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru, gofynion y diwydiant, swyddogaeth a heriau cyfieithu ar y pryd a datblygiadau technegol yn y maes megis cyfieithu peirianyddol a chofau cyfieithu. Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle ichi ymarfer sgiliau cyfieithu, golygu a phrawf-ddarllen a dysgu am yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith.

Nod

Amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy ddefnydd o dechnoleg cyfieithu a dysgu dealltwriaeth o ofynion a heriau'r sector cyfieithu.

Cynnwys

Bydd 10 darlith yn cyflwyno gwahanol agweddau ar y diwydiant cyfieithu, egwyddorion cyfieithu a gwaith cyfieithwyr proffesiynol. Trafodir pynciau megis:
Datblygiad cyfieithu yng Nghymru
Hanfodion cyfieithu proffesiynol
Cyfieithu yng ngweithleoedd Cymru
Cyfieithu peirianyddol
Cofau cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd

Bydd gweithdai’r modiwl yn rhoi cyfle ichi ymarfer cyfieithu ar bapur ac ar gyfrifiadur ac ymarfer eich sgiliau golygu a phrawf-ddarllen. Cewch chi ddysgu am yr adnoddau iaith a ddefnyddir gan gyfieithwyr a gwneud defnydd ohonynt wrth ymarfer. Bydd cyfle yn y gweithdai hefyd i dderbyn adborth adeiladol ar eich gwaith cyfieithu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datblygir sgiliau dadansoddi wrth drafod heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu ac egwyddorion cyfieithu.
Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau wrth lunio cyfieithiadau mewn rhai gweithdai.
Un o hanfodion y modiwl yw datblygu sgiliau cyfieithu sy’n galw am waith dadansoddi wrth drosi testun i iaith arall. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen, cywair a mynegiant.
Datblygir dealltwriaeth o ofynion a heriau’r diwydiant cyfieithu proffesiynol.
Datblygir sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ysgrifenedig a thraethawd.
Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’u perfformiad drwy’r tasgau cyfieithu rheolaidd. Dysgir sgiliau golygu a phrawf-ddarllen sy’n cynorthwyo myfyrwyr i wella’u gwaith cyfieithu eu hunain.
Datblygir dealltwriaeth o gyfieithu peirianyddol, cofau cyfieithu ac adnoddau iaith ar-lein megis geiriaduron a phyrth termau. Anogir y myfyrwyr hefyd i wneud defnydd o’r Bwrdd Du.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5