Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA11020
Teitl y Modiwl
Byw gyda newid byd-eang
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Ailsefyll  (5 munud)  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1 Ailsefyll  (1,500 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2 Ailsefyll  (1,500 gair)  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad  (5 munud)  20%
Asesiad Semester Traethawd 1  (1,500 gair)  40%
Asesiad Semester Traethawd 2  (1,500 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos ymwybyddiaeth o safonau, disgwyliadau ac arferion Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd ar lefel prifysgol

Trafod sialensiau daearyddol ac amgylcheddol dewisedig a datrysiadau rheoli.

Adnabod ffynonellau ac adnoddau data priodol ar gyfew Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd, gan gynnwyn llyfrau, cylchgronau a gwefannau, a dangos gwerthfawrogiad o'r meterion sy'n gysylleiedig â'u defnydd.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma yn cyflwyno myfyrwyr i'r prif heriau daearyddol ac amgylcheddol sy'n wynebu dynoliaeth a'r fyrdd y cânt eu trin a'u rheoli trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau personol unigol a grwpiau bychain a gwaith maes lleol yng nghanolbarth Cymru. Mae'r prosesau gwyddonol sy'n gysylltiedig â'r problemau amgylcheddol cyfoes hyn yn cael eu harchwilio a'u trafod mewn cyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Bydd astudiaethau achos, yn amrywio o raddfeydd lleol a byd-eang, yn cael eu harchwilio yn ystod y teithau maes a darlithoedd. Bydd yr astudiaethau achos hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn ystod grwpiau tiwtorialau bychain lle bydd ystod o sgiliau astudio yn cael eu datblygu. Bydd y modiwl yn amlygu sut y gellir integreiddio dealltwriaeth wyddonol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol o newid i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol mawr yn effeithiol.

Mae'r modiwl yn cynnwys elfen tiwtorial a asesir gyda thiwtoraid academaidd personol mewn grwpiau bach o tua pum myfyriwr. Yn yr elfen hon o'r modiwl datblygir sgiliau astudio a phersonol, archwilir uchelgais gyrfaol a chynhelir trafodaeth academaidd mewn grwpiau tiwtorial bychain a phersonol. Mae gwaith cwrs academaidd yn archwilio dadleuon a themâu allweddol mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd, a thrwy ymchwiliad o'r fath datblydir ystod o sgiliau astudio academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys:

· Cynllunio trefniadau gwaith a gosod targedau academaidd a phersonol;

· Defnyddio'r llyfrgell a sut i adeiladu rhaglen ddarlled effeithiol; arddulliau gwneud nodiadau a chyfeiriadau llyfryddol;

· Dadansoddi a dehongli data;

· Technegau ysgrifennu traethodau a sefyll arholiadau (cyflwynir myfyrwyr i sgiliau ysgrifennu da a'r rhinweddau a ddefnyddir i asesu gwaith ysgrifenedig);

· Gwerth adborth, a sut i ymateb iddo

Mae'r modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â'u dysgu, cyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith mewn grwpiau bychain. Ochr yn ochr â'r rôl academaidd, gall trafodaeth ddigweyy am gyfleoedd cyflogadwyedd a gyrfaoedd.

Asesir y modiwl trwy dri aseiniad crynodol ac fe'i cefnogir gan un aseiniad ffurfiannol. Traethawn yw'r aseiniad cyntaf (1,500 o eiriau; 40%). Cyflwyniad deg munud yw'r ail aseiniad (20%) a thraethawd yw'r trydydd aseiniad terfynol (1,500 o eiriau, 40%).

Cynnwys

Bydd y darlithoedd yn canolbwyntio ar y themâu canlynol o safbwyntiau ffisegol a dynol: yr Anthroposed, darparu adnoddau (e.e. dŵr, ynni a mwynhau), gwrthdaro dro ddefnydd tir, llygredd a newid systemau naturiol, risgiau a rheolaeth amgylecheddol (e.e. newid lefel y môr ac erydiad arfordirol). Defnyddir ymagwedd astudiaeth achos i archwilio themâu cyffredin megis llygredd lleol, rhanbarthol a byd-eang, adborth positif a negyddol, dosbarthu adnoddau ac argaeledd a gwaddol hanesyddol.

Trwy sesiynau tiwtorial grŵp back a fydd yn archwilio themâu'r darlithoedd yn fwy manwl, mae'r modiwl hwn hefyd yn cytuno cyfrifoldebau bugeiliol a datblygiad personol y tiwtor personol gyda datblygu medrau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch. Bydd yr wyth sesiwn tiwtorial (sy'n cynnwys cyfarfodydd tiwtor personol) yn datblygu'r sgiliau canlynol:

· Gwerthuso ac adolygu adnoddau llyfrgell ac addysgu;

· Ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd;

· Ymateb i adborth;

· Technegau adolydu;

· Sgiliau cyflwyno llafar.

Gellir trafod materion eraill sy'n ymwneud â datblydiad bugeiliol - megis cyfeirio gwasanaethau prifysgol a lleol, disgwyliadau a heriau bywyd prifysgol, rheoli amser ac adnoddau, adolygy perfformiad academaidd a chyflogadwyedd a dyheadau gyrfaol mew slotiau tiwtoriaid perlonol dynodedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn arddull academaidd briodol, a chyflwyno ar lafar mewn modd clir a phroffesiynol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae materion datblygu personol a chyflogadwyedd wedi'u mewnblannu yn y sesiynau tiwtor personol.
Datrys Problemau Bydd nyfyrwyr yn cael y cyfle i ddatrys problemau daearyddol / gwyddonr yr amgylch yn ystod elfen gwaith maes y modiwl.
Gwaith Tim Er na chaiff ei asesu, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio fel tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth; mae elfen o aseiniad 1 yn asesu sut mae myfyrwyr wedi ymateb i adborth.
Rhifedd Ni ymdrinnir â hyn yn benodol yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Mae'r cyrsiau maes, darlithoedd a'r aseiniadau yn mynd i'r afael â dadleuon a themâu allweddol mewn daearyddiaeth.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio, a gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer gwaith cwrs.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer y ddau draethawd a meddalwedd cyflwyno ar gyfer y cyflwyniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4