Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 80% | 
| Asesiad Semester | Gwaith Cwrs Marc yn seiliedig ar bresenoldeb mewn darlithoedd a thiwtorialau ac aseiniadau a gyflwynir | 20% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Ar gwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru: 
 1.	defnyddio'r nodiant ar gyfer setiau a mapiadau;
 2.	llunio profion gan ddefnyddio'r Egwyddor o Anwythiad Mathemategol;
 3.	defnyddio'r Theorem Binomial ar gyfer esbonydd cyfanrif mewn amryw o sefyllfaoedd;
 4.	darganfod symiau cyfresi rhifyddol a geometrig;
 5.	ymdrin â rhifau cymhlyg a defnyddio Theorem DeMoivre;
 6.	defnyddio'r Algorithm Rhannu ar gyfer polynomialau;
 7.	deillio hafaleddau ar gyfer gwreiddiau a chyfernodau polynomialau.
 
 
Disgrifiad cryno
.Mae'r modiwl hwn yn dysgu'r algebra sy'n hanfodol i astudio Mathemateg.
Nod
I gyflwyno myfyrwyr i'r syniadau o algebra trwy astudio rhifau cymhlyg a pholynomialau.
Cynnwys
2. SYMIAU MEIDRAIDD: Theorem Binomial, cyfresi rhifyddol a geometrig. Egwyddor Anwythiad Mathemategol.
3. RHIFAU CYMHLYG: Dadansoddiad geometrig. Theorem DeMoivre.
4. POLYNOMIALAU: Yr Algorithm Rhannu a Theorem y Gweddill. Ffwythiannau cymesur. Y berthynas rhwng israddau polynomial a'i gyfernodau.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o’u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portffolio yn crynhoi’r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal â chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a’r aseiniadau yn cynnwys trafod ar lafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i’r myfyrwyr o’r sialensau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. | 
| Datrys Problemau | Bydd yr aseiniadau yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr i ddarganfod datrysiadau yn greadigol ac i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau. | 
| Gwaith Tim | Bydd trafodaeth grŵp yn chwarae rhan allweddol yng ngweithdai’r modiwl. Bydd yn gyfle i’r myfyrwyr rannu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir fod graddedigion Mathemateg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu sgiliau datrys problemau ac amryw o dechnegau Mathemategol yn ogystal â’r gallu i ymdrin â’r pwnc yn hyderus yn y ddwy iaith. Mae’r modiwl hwn yn ffocysu ddefnyddio’r sgiliau yma yn y gweithle. | 
| Rhifedd | Disgwylir i’r myfyrwyr gymorthwyo â tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal â gosod tasgau Mathemategol yn eu gwers ar ddiwedd y tymor. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Yn ehangu profiadau'r myfyrwyr mewn pynciau mathemategol. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i’r syniadau a’r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio’r rhestr ddarllen a roddir. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i’r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o’r chwiliadau eu cyflwyno o fewn yr aseiniadau a’r portffolio. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
